Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARCELL, GEORGE HENRY (1895-1967), cerddor; g. 18 Tach. 1895 yn Heol Caerfyrddin, Fforest-fach ger Abertawe, mab Henry ac Elisabeth Parcell. Glöwr ydoedd fel ei dad. Llafuriodd gydol ei oes yng nglofa Garn-goch, Gorseinon. Er yn blentyn amlygodd ddawn arbennig mewn cerddoriaeth a defnyddiodd ei oriau hamdden i ddatblygu ei alluoedd cynhenid. Heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol nac athro o fath yn y byd enillodd ddwy ddiploma yng Ngholeg Coffa Curwen, Llundain: A.T.S.C. (1950) ac L.T.S.C. (1952). Bu'n organydd (1922-27) ac arweinydd y gân (1927-65) yn Saron (A), Gendros ger Abertawe; yn ôl gohebydd yr Evening Post dewiswyd ef i'r swydd olaf allan o naw ymgeisydd gyda brwdfrydedd mawr. Apwyntiwyd ef hefyd yn gôr-feistr côr meibion Fforest-fach. Cyfansoddodd dros ugain o donau, nifer ohonynt yn fuddugol mewn eisteddfodau megis ‘David’, ‘Wig’, ‘Yr Allt’ ac un anthem fechan ‘Duw sy'n noddfa a nerth’, y cwbl yn syml a graenus heb fod yn uchelgeisiol. Lluniwyd hwy ar gyfer cynulleidfaoedd yr eglwysi a gwyddai'r awdur fesur yr adnoddau. Rhoddodd enw ei wraig ‘Irene’ ar un o'i donau gorau a bu cryn fri ar ei dôn ‘Marchog Iesu’ ar eiriau Williams Pantycelyn, ‘Mae'r Iesu yn myned i ryfel’, mewn cymanfaoedd yng Nghymru ac America — recordiwyd hi gan Gôr Godre'r Aran. Cyhoeddwyd detholiad o'i weithiau mewn rhaglen arbennig a dathlwyd yr achlysur mewn Sul o fawl yn y Gendros 28 Mai 1950, ‘fel arwydd o barch ac o ddyled am lafur cyson a didâl’. Yr oedd ei aelwyd yn ‘Mile End’ yn academi cerdd mewn gwirionedd a'r drws yn llydan agored i groesawu efrydwyr, heb ddimai o dâl. O dan ei ddylanwad datblygodd Fforestfach yn ganolfan diwylliant cerddorol o'r radd flaenaf. Tyrrai pobl o rannau gwahanol y wlad i'r cyngherddau blynyddol yng nghapel Saron i wrando'r côr ac artistiaid byd-enwog yn perfformio gweithiau'r meistri. Uwchlaw popeth dysgodd do ar ôl to i feistroli'r tonic solffa a thrwy hynny eu galluogi i ganu emyn ac anthem mewn pedwar llais. Ni ellir meddwl am ganiadaeth y cysegr yng Nghymru heb gofio am ei gyfraniad ef a rhai tebyg iddo. Yn y cyswllt hwn cynrychiola genhedlaeth o gymwynaswyr na ellir yn hawdd orfesur ei phwysigrwydd. Pr. Irene Ackerman, 26 Rhag. 1929. Bu f. 8 Mawrth 1967 a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Treforus.

Llyfryddiaeth:

  • Seiliwyd yn bennaf ar ‘Ffeil George Parcell’ yng ngofal y teulu;
  • adroddiadau yn yr Evening Post;
  • llyfr cofnodion eglwys Saron, Gendros,
  • a Rhaglen Sul o Fawl, 28 Mai 1950.

Awdur:

Y Parchedig Ddr Richard Leonard Hugh (1913-83), Gorseinon