PARR-DAVIES, HARRY (gynt DAVIES, HARRY PARR ; 1914-1955), pianydd a chyfansoddwr;
g. Castell-nedd, Morg., 1914, mab D.J. a Rosina Davies (g. Parr). Addysgwyd ef yn ysgol Dunraven, Treherbert ac yn ysgol ganolraddol Castell-nedd. Amlygodd ddawn gerddorol pan oedd yn blentyn, a dywedir iddo gyfansoddi 30 cân a dwy opereta cyn cyrraedd ei 13 oed. Cafodd addysg gerddorol gan Seymour Perrott, organydd bwrdeisdref Castell-nedd, ac fe'i hanogwyd gan Syr Walford Davies (Bywg. 2, 9) i wneud gyrfa fel cyfansoddwr clasurol; ond yr oedd cerddoriaeth ysgafn yn fwy at ei ddant, ac astudiodd weithiau Eric Coates ac Edward German er mwyn perffeithio'i grefft. Fe'i cyflwynodd ei hun i'r gantores Gracie Fields a dod yn gyfeilydd iddi ym Mhrydain ac ar deithiau i Ganada a De Affrig. Ef a gyfansoddodd y gân ‘Sing as we go’, a ganodd Gracie Fields yn y ffilm Shipyard Sally (1939), ac a roes deitl i'w hunangofiant hi; lluniodd hefyd gerddoriaeth i eiriau Phil Park, ‘Wish me luck as you wave me goodbye’, a ddaeth yn boblogaidd ar ddechrau Rhyfel Byd II. Am ei gân, ‘Smile when you say goodbye’ derbyniodd flaendal o £1000, y swm uchaf a dalesid ar y pryd am gân unigol. Ymhlith ei sioeau llwyfan yr oedd Black velvet, The Lisbon story, Her Excellency a Dear Miss Pheobe. Cyfansoddodd fiwsig i ffilm Gracie Fields, This Week of Grace (1933), a bu'n llunio caneuon i berfformwyr eraill megis George Formby. Bu f. yn ei gartref yn Knightsbridge, Llundain, 14 Hyd. 1955, a chladdwyd ef ym mynwent Ystumllwynarth, ger Abertawe.
Llyfryddiaeth:
- The Times a West. Mail, 15 Hyd. 1955;
- Neath Guard.., 21 Hyd. 1955.
Awdur:
Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth