PASCOE, Syr FREDERICK JOHN (1893-1963), diwydiannwr;
g. yn Truro, Cernyw, 19 Maw. 1893, yn fab i Frederick Richard Pascoe. Pr., yn 1936, â Margaret Esson, merch Cyrnol F. J. Scott, a bu iddynt un mab ac un ferch. Addysgwyd ef yng Nghaerwysg a Choleg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. Gwyddorau Mecanyddol). Cychwynnodd ar ei yrfa mewn diwydiant yn brentis yn Leeds Forge. Yn ystod Rhyfel Byd I gwasanaethodd yn Ewrop yn swyddog gyda'r Durham County Light Infantry ac ar ôl hynny gyda'r Indian Signal Service. Daeth yn un o ddiwydianwyr blaenaf Prydain rhwng y ddau ryfel byd ac wedi hynny. Fel ysgrifennydd Electric and Railway Finance Corporation, 1926-30, y daeth gyntaf i sylw'r cyhoedd ac yn fuan wedyn daeth i gysylltiad â Chymru a'i diwydiant, cysylltiad a barhaodd dros weddill ei oes. Disgrifiwyd ef yn garedig fel gŵr o Gernyw a chanddo ddigon o waed y Celt iddo deimlo ei fod yn perthyn i Gymru ac yn arbennig i gymoedd y De. Yn 1930 daeth yn gyfarwyddwr British Timken Ltd. Bu'n gadeirydd a chyfarwyddwr-reolwr o 1940 hyd 1959 pryd y daeth yn gadeirydd Adran Prydain o'r Timken Roller Bearing Co., cyfundrefn ddiwydiannol fawr y cynyddodd ei gweithlu o ychydig gannoedd o wŷr i gyflogi 7,000 o weithwyr. Ymhlith y canghennau yr oedd Aberdare Holdings (a gynhwysai Aberdare Cables Ltd., Aberdare Engineering Ltd., a South Wales Switchgear) a sefydlwyd gan Syr John yn 1955 ac a ddaeth â gwaith i 4,000 o ddynion mewn ardal ddirwasgedig o dde Cymru. Bu'n aelod o gyngor cenedlaethol Aims of Industry, a'r Regional Advisory Council for the Organisation of Further Education in the East Midlands. Ac yntau'n Geidwadwr pybyr, bu'n gadeirydd Cymdeithas Geidwadol ac Unoliaethol Kettering, 1948-53; yn rhyddfreinwr Dinas Llundain ac yn Liveryman of the Worshipful Company of Tin Plate Workers alias Wire Workers, a'r Fishmongers’ Company. Urddwyd ef yn farchog yn 1957 a bu f. 5 Chwef. 1963.
Llyfryddiaeth:
- Www;
- West. Mail, 7 Meh. 1963.
Awdur:
David Glanville Rosser, M.B.E., (1915-2001), Caernarfon