PEARCE, EVAN WILLIAM (1870 - 1957), gweinidog (MC) ac awdur;

Enw: Evan William Pearce
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1957
Priod: Rachel Pearce (née James)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur;
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 2 Hydref 1870 yn Llanilltud Faerdref, Morgannwg, ond symudodd y teulu i Bontycymer, lle y dechreuodd bregethu yn 1891 yng nghapel Bethel. Aeth i Goleg Trefeca ar 14 Medi 1892 am bedair blynedd ac ordeiniwyd ef yn 1897. Bu'n weinidog ym Mrychdwn, Bro Morgannwg, ond ymddeolodd i fynd i Bontarddulais yn 1902 i ofalu am berthynas iddo. Ymhen ychydig aeth i Fethel, Porth-cawl, lle bu'n weinidog am 25 mlynedd gan ymddeol yn 1927. Bu'n llywydd ac ysgrifennydd henaduriaeth Dwyrain Morgannwg. Priododd, 31 Mawrth 1898, â Rachel James yn Abertawe a bu iddynt un ferch. Gwnaeth ei gartref yn Y Gorlan, Green Avenue, Porthcawl, lle y cyfarfu Cymdeithas Gweinidogion Porth-cawl am flynyddoedd, a bu farw 30 Awst 1957.

Cymerai ddiddordeb mawr mewn hanes lleol a hanes ei enwad ei hun gan fod yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Ysgrifennai i'r Western Mail, a chyhoeddodd lyfryn hanes, Beulah, Margam, 1893-1938, a historical sketch (1938), a chofiant i The Rt. Hon. George Swan Nottage, Lord Mayor of London, 1884-5 (1938).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.