PHILLIPS, PHILIP ESMONDE (1888 - 1960), Islyngesydd

Enw: Philip Esmonde Phillips
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1960
Priod: Ellinor Phillips (née Kidston)
Rhiant: P.S. Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Islyngesydd
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Donald Moore

Ganwyd 16 Mehefin 1888 yn fab iau i P. S. Phillips, Crumlin Hall, Mynwy Priododd yn 1933 Mrs Ellinor Curtis, merch Capten Glen Kidston (terfynwyd y briodas yn 1950); bu iddynt un mab. Addysgwyd Phillips yng Ngholeg Britannia y Llynges Frenhinol, Dartmouth. Dyfarnwyd iddo y D.S.O. a bar yn ystod Rhyfel Byd I. Yn 1927 aeth yn Benswyddog Staff Is-lyngesydd y Llongau Tanfor. O 1935 hyd 1937 bu'n Ail Aelod Bwrdd Llyngesol y Gymanwlad. O 1937 hyd 1938 bu'n Bennaeth Staff a Chapten Gofalaeth y Nore. Gosodwyd ef ar Restr yr Ymddeolwyr yn 1938 fel capten. Y flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn A.D.C. i'r Brenin. Gyda chychwyn Rhyfel Byd II yn 1939 galwyd ef yn ôl i wasanaeth gweithredol fel islyngesydd, a gwasanaethodd yn gyntaf yn Flag Officer Aberdaugleddau, ac wedyn yn Swyddog Hŷn y Llynges Brydeinig yn Nhrinidad. Ymddeolodd yn 1945 ac fe'i penodwyd yn C.B. Bu'n Ddirprwy Raglaw dros sir Frycheiniog. Ymgartrefodd yn Woodberry Cottage, Itchester, Sussex, a bu farw 27 Chwefror 1960 yn ysbyty Chichester.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.