Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PODE , Syr EDWARD JULIAN ( 1902 - 1968 ), cyfrifydd a diwydiannwr ; g. 26 Meh. 1902 yn Sheffield , mab Edward a Lilla (g. Telfer ) Pode . Addysgwyd ef ym Mount House , ger Plymouth , ac yn H.M.S. Conway ac ymunodd â'r llynges adeg Rhyfel Byd I . Yn 1926 cychwynnodd ar ei waith oes mewn diwydiant yng Nghymru pan ymunodd â chwmni Guest, Keen a Nettlefolds, Cyf. yn Nowlais fel cyfrifydd rhanbarthol . Pan unwyd GKN a chwmni Baldwins Cyf. yn 1930 daeth yn ysgrifennydd y cwmni newydd a'i ddyrchafu nes dod yn gyfarwyddwr trefniadol yn 1945 . Er ei fod yn erbyn gwladoli'r diwydiant dur, darbwyllwyd ef yn 1947 i fod yn gyfarwyddwr Cwmni Dur Cymru , ac yn gadeirydd , 1962-67 . O dan ei ddwylo daeth yn gwmni dur mwyaf Ewrob , a'r cynnyrch yn cynyddu o hanner miliwn tunnell o ddur y flwyddyn i dair miliwn. Bu'n aelod o'r pwyllgor gwaith ac yn llywydd ( 1962-64 ) Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain , ac yn is-lywydd y Sefydliad Haearn a Dur . Cymerai ddiddordeb mawr mewn arbed tanwydd ac ysgrifennodd erthygl ar effeithlonrwydd tanwydd mewn diwydiant yn Industrial Wales , Meh. 1952 , gan ddod yn gyfarwyddwr , ac yna'n gadeirydd ( 1965 ), Gwasanaeth Effeithlonrwydd Diwydiannol Cenedlaethol . Cymerai ddiddordeb mewn llawer maes heblaw'r gwaith dur, a bu'n gadeirydd Corfforaeth Datblygu Cymru ( 1958 ) a chwmni Doc Sych Tywysog Cymru , Abertawe , ac yn gyfarwyddwr Banc Lloyd , ac enwi dim ond ychydig. Cafodd gymrodoriaethau perthynol i'w broffesiwn a diploma er anrhydedd . Cydnabuwyd ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus pan wnaed ef yn siryf Morgannwg yn 1948 ac yn ynad heddwch yn 1951 . Cafodd ryddfreiniaeth Port Talbot yn 1957 am effaith ei lwyddiant yn y gwaith dur ar ffyniant yr ardal. Urddwyd ef yn farchog ddydd Calan 1959 . Ei allu i fynd yn union at graidd unrhyw fater, ei barodrwydd i wneud penderfyniad cadarn ar fyr rybudd, a'i ddawn i gael y gorau o'r rhai a weithiai oddi tano oedd y rhinweddau a gyfrannodd at ei lwyddiant nodedig. Un o'i ddiddordebau oedd ffermio ac yr oedd mor boblogaidd ymhlith ffermwyr Tresimwn ag ydoedd yn nhref Port Talbot .

Pr. yn 1930 â Jean Finlay merch F. Finlayson , Gwynfa , Caswell , Abertawe , a bu iddynt ddau o blant. Bu f. yn ei gartref, The Great House , Tresimwn, Morg. , 11 Meh. 1968 , a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf.

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • The Western Mail , 7 ac 8 Mawrth 1957 , 13 Meh. 1968 ;
  • The Times , 13 ac 18 Meh. 1968 ;
  • gwybodaeth gan ei fab John Pode .

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth.