Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RADMILOVIC, PAUL (1886-1968), nofiwr; g. 5 Mawrth 1886 yng Nghaerdydd, ei dad yn Roegwr a'i fam yn Wyddeles. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Weston-super-Mare. Rhwng 1908 ac 1928 bu'n cystadlu mewn pump o Chwaraeon Olympaidd ac enillodd fedalau aur mewn tri ohonynt — am bolo-dŵr yn 1908, 1912, 1920 ac fel aelod o dîm relay Prydain yn 1908. Oni bai i'r Rhyfel rwystro cynnal y Chwaraeon yn 1916, buasai Raddy — fel y gelwid ef — wedi cymryd rhan mewn mwy o Olympau ac wedi ennill rhagor o fedalau aur Olympaidd na'r un nofiwr arall. Enillodd bencampwriaeth 100 llath Cymru 15 gwaith rhwng 1901 ac 1922. Yn 1929, ac yntau'n 43 oed, enillodd bencampwriaeth 440 ac 880 llath Cymru. Yn 1967 cafodd ei anrhydeddu yn yr Hall of Fame yn Fort Lauderdale, Florida, un o'r ychydig Brydeinwyr i dderbyn un o brif anrhydeddau byd nofio. Bu f. 29 Medi 1968.

Llyfryddiaeth:

  • Pat Besford, Encyclopaedia of Swimming (1971).

Awdur:

Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor