Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, CALEB (1883-1970), arolygydd ysgolion ac awdur; g. yn 1883 yn fab i Jacob a Mary Rees, Esgair-ordd, Eglwys Wen, Penf. Aeth o ysgol y pentref i ysgol uwchradd Port Talbot lle yr enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1899. Tra oedd yno enillodd wobr goffa Gladstone, a graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1902. Aeth i Brifysgol Manceinion am gwrs pellach o addysg gan ennill gwobr Withers cyn dychwelyd i Gaerdydd fel darlithydd yn yr adran addysg yn 1908 a chael gradd M.A. y flwyddyn ddilynol. Yn 1912 penodwyd ef yn arolygydd ysgolion Brycheiniog, Mynwy a bwrdeistref Casnewydd, a'i ddychafu'n ddirprwy brif arolygydd Cymru yn ddiweddarach. Ar ddechrau Rhyfel Byd II bu'n swyddog yn y Weinyddiaeth Hysbysrwydd yng Nghaerdydd ond torrodd ei iechyd ac wedi cael adferiad dychwelodd i'w waith fel arolygydd colegau hyfforddi ac adrannau addysg y Brifysgol. Pr. yng nghapel City Road (EF), Llundain, 28 Awst 1922, â Laura Gertrude Powell, swyddog meddygol y Bwrdd Iechyd yng Nghaerdydd, a gwnaethant eu cartref yn 28 Clytha Park Road, Casnewydd-ar-Wysg. Er iddo ymddeol yn 1943 i Drebentir, Lacharn, cynorthwyodd, dair bl. yn ddiweddarach, gyda'r gwaith o holi dynion ifainc, llawer ohonynt newydd eu rhyddhau o'r lluoedd arfog, a oedd am fynd i golegau hyfforddi. Ymaelododd ef a'i briod yn ei hen eglwys ym Mhen-y-groes, lle y gwnaed ef yn ddiacon. Bu ei briod f. ddydd Calan ac yntau ar 9 Ion. 1970.

Ysgrifennodd ef a'i frawd Stephen Morris Rees hanes yr eglwys, Pen-y-groes, gyrfa dwy ganrif (1959). Ceir cyfres o erthyglau ar addysg ganddo yn Y Traethodydd 1907-8, ‘Dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion’ yn Y Beirniad, 1, hanes gor-ewythr iddo a aeth i'r Amerig yn Y Llenor, 1933, ynghyd â phamffledi ar addysg.

Llyfryddiaeth:

  • WwW (1937);
  • Cardigan and Tivyside Advertiser, 16 a 23 Ion. 1970;
  • WWP;
  • Calendr Prifysgol Cymru, 1900-13;
  • OPCS, g. Gorff. - Medi 1883.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth