REES, Syr JAMES FREDERICK (1883 - 1967), Prifathro Coleg Prifysgol Deheudir Cymru

Enw: James Frederick Rees
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1967
Priod: Dora Rose Lucile Rees (née Davies)
Rhiant: John Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Prifathro Coleg Prifysgol Deheudir Cymru
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 13 Rhagfyr 1883 yn fab i John Rees, Priory Hill a Hakin wedi hynny, Aberdaugleddau, Penfro, gweithiwr yn y dociau. Addysgwyd ef yn yr ysgol fwrdd cyn cael ysgoloriaeth i fynd i'r ysgol ganol leol ar 24 Ionawr 1898, ac i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1901, lle y graddiodd gyda Dosbarth I mewn Hanes yn 1904. Yn 1908 cafodd Ddosbarth I yn ysgol Hanes Modern, Rhydychen. Bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, 1908-12, darlithydd ym Mhrifysgol Belfast am ychydig ac wedyn yn Ddarllenydd mewn Hanes Economaidd ym Mhrifysgol Caeredin, 1913-25. Cafodd Gadair Masnach (Commerce) ym Mhrifysgol Birmingham yn 1925 ac yno y bu nes ei ethol yn Brifathro Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1929, swydd a ddaliodd am 20 mlynedd. Bu'n is-ganghellor Prifysgol Cymru ddwywaith, 1935-37 ac 1944-46, ac yn warden Urdd y Graddedigion, 1950-53. Wedi ymddeol yn 1949 aeth yn Athro ymweliadol mewn Economeg i Brifysgol Ceylon, 1953-54 a bu'n bennaeth adran Hanes Economaidd ym Mhrifysgol Caeredin, 1956-58.

Gwasanaethodd ar nifer helaeth o bwyllgorau diwydiannol a chyfansoddiadol, gan amlygu doethineb, dealltwriaeth ac egni anghyffredin. Ef oedd cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Broblemau Adfer (Reconstruction) yng Nghymru, 1942-46, a bu'n aelod o'r comisiwn ar Ddiwygio'r Cyfansoddiad yn Ceylon, 1944-45. Gwasanaethodd ar Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol, 1946-49. Derbyniodd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru, Birmingham a Chaeredin, a'i urddo'n farchog yn 1945 pan oedd yn Ceylon. Bu'n siryf ei sir enedigol yn 1955 ac yn llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, 1956-57.

Yr oedd yn awdur nifer o gyfrolau megis A social and industrial history of England, 1815-1918 (1920), A short fiscal and financial history of England, 1815-1918 (1921), Studies in Welsh history (1947); The story of Milford (1954), The problem of Wales and other essays (1963); a golygodd A survey of economic development with special reference to Great Britain (1933), a The Cardiff region: a survey (1960). Ceir erthyglau ganddo mewn cyfnodolion cymdeithasau hanes, gwyddoniaduron, Cambridge history of the British Empire a'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Cyhoeddwyd amryw o'i anerchiadau, yn eu plith The dominion of Ceylon (1949) a darlith flynyddol y B.B.C. yng Nghymru a draddododd ar Welsh nationality and historians (1951).

Priododd yn 1913 â Dora Rose Lucile, merch Gethin Davies, prifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, a bu iddynt un mab. Bu farw 7 Ionawr 1967 yn ei gartref yn 11 Celyn Grove, Cyncoed, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.