Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES-DAVIES, IEUAN (1894-1967), cerddor ac awdur; g. 15 Gorff. 1894 yn Nhreorci, Rhondda, Morg., a'i addysgu yn ysgol Pentre. Symudodd i Lundain tuag 1914 a bu dan hyfforddiant yng Ngholeg Goldsmith a'r Academi Gerdd Frenhinol. Magodd ddiddordeb arbennig yn safle cerddoriaeth yn yr ysgol, gan ennill diploma L.T.S.C. i athrawon. Enillodd hefyd dystysgrifau L.R.A.M. ac A.R.C.M. a chael F.T.S.C. ac F.T.C.L. er anrh. Bu'n athro ysgol ac yn brifathro yn Llundain, a threfnai ddosbarthiadau i athrawon cerdd yn y Literary Institutes. Penodwyd ef yn ddarlithydd yn y coleg a sefydlwyd yn Marylebone i hyfforddi athrawon cerdd, a bu'n cynghori awdurdodau addysg Llundain, Caint, Essex a Surrey ar gerddoriaeth ysgol. Bu'n athro ac yn arholwr yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain ac yn aelod o gyngor Coleg y Tonic Sol-ffa. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac erthyglau ar addysg gerddorol, gan arbenigo ar brofion y glust a chanu dosbarth. Ymhlith ei weithiau ceir Transposition at the keyboard (1933), A sightsinging course for the non-specialist teacher (1955), Aural tests for schools (1960), Graded music reading (1961) a Music for CSE (1966). Cyfansoddodd donau a rhan-ganau: yr enwocaf o'i weithiau yw ei osodiad i gorau meibion o hwiangerdd a briodolir i'r Brenin Siarl I, ‘Close thine eyes’, a droswyd i'r Gymraeg (‘Cyn cau llygaid’) gan William Evans (‘Wil Ifan’, gw. uchod) ac a gyhoeddwyd gan Curwen yn 1938. Casglodd hefyd flodeugerdd ddwyieithog o farddoniaeth bro ei eni, Caniadau Cwm Rhondda (1928) sy'n cynnwys dwy gerdd o'i waith ei hun, ‘Y garreg fawr’ a ‘A nocturne - on Tylacoch’. Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd o dan yr enw barddol ‘Ieuan’ yn Eist. Gen. Treorci yr un flwyddyn. Pr. (1) â Jean Macdonald Fitchet (m. 1938); (2) â Barbara Lacey. Trigai ar ddiwedd ei oes yn Kingston-upon-Thames. Bu f. 28 Tach. 1967.

Llyfryddiaeth:

  • WwW (1937);
  • Who's who in Music (1935; 1962);
  • Y Cerddor, Ebr. 1934.

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth