Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, THOMAS JAMES (1875-1957), cyfarwyddwr addysg; g. 19 Maw. 1875, yn fab James a Mary Rees, Waun-wen, Abertawe, Morg. Cafodd radd (B.A.) Prifysgol Llundain yn 1898, ac er nad oedd ganddo brofiad o fod yn ysgolfeistr penodwyd ef o blith 112 o ymgeiswyr yn gyfarwyddwr addysg yn Abertawe yn 1908, swydd a gadwodd hyd nes iddo ymddeol yn 1943. Ym myd addysg Prydain daeth yn adnabyddus fel aelod o bwyllgorau ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Gyda'i wybodaeth eang daeth yn siaradwr huawdl a phoblogaidd ar faterion addysg, a daeth yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus ym myd addysg yng Nghymru fel ysgrifennydd mygedol Ffederasiwn Pwyllgorau Addysg Cymru a Mynwy. Yr oedd ganddo gysylltiad â llawer o gymdeithasau, gan fod yn aelod o'r Cyngor Canolog ar Ddarlledu i Ysgolion, cyngor Prifysgol Cymru, Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru, ac Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru. Bu'n Y.H. ac yn drysorydd Coleg y Brifysgol, Abertawe. Ef oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Rotari Abertawe, a bu'n llywydd Rotari Prydain Fawr ac Iwerddon, 1942-44. Yn 1943 gwnaed ef yn C.B.E. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir anerchiad ar The appointment of head teachers (1911) ac adroddiadau ar The teaching of Welsh in elementary schools (1914) a The education problem in Swansea (1918).

Pr., 1902, Katie Davies, Tre-gŵyr, a bu iddynt ddwy ferch. Bu f., 24 Rhag. 1957, yng nghartref ei ferch, Brynfield, Reynoldston.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • The Cambrian, 18 Medi 1908;
  • Herald Cymr., 9 Ion. 1943 a 4 Ion. 1958.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth