Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, RICHARD JENKIN (1868-1963), gweinidog (MC); g. 10 Medi 1868 yn y Riwel Isaf, Pen-y-garn, Cer., mab John a Catherine Rees. Symudodd ei rieni i Lundain pan oedd yn faban. Addysgwyd ef yn y City of London School, a Choleg Aberystwyth (lle cafodd radd B.A. Prifysgol Llundain). Bu ar ôl hynny yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, gan raddio yn y dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth. Ei fwriad, yn Aberystwyth, oedd dilyn gyrfa cyfreithiwr, ond o dan ddylanwad cenhadaeth Dr. Henry Drummond yn y coleg troes ei wyneb i gyfeiriad y weinidogaeth Gristionogol. Dechreuodd bregethu yn eglwys Jewin, Llundain. Ord. ef yn 1893, a bu'n gweinidogaethu yn eglwys Saesneg Ala Rd., Pwllheli (1892-94); Clifton St., Caerdydd (1894-1903); a'r Tabernacl, Aberystwyth (1903-22). Galwyd ef i arolygu Symudiad Ymosodol ei Gyfundeb, gan ymsefydlu yng Nghaerdydd, a bu'n ddiwyd a llwyddiannus yn y swydd honno hyd 1947. Pr. 1894, Apphia Mary James o Ben-y-garn; bu iddynt ddau fab a dwy ferch. (Disgleiriodd ei ail fab, Morgan Goronwy Rees, fel llenor; bu'n Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn y cyfnod 1953-57). Ar ôl ymddeol bu'n byw gyda'i blant ym Mhwllheli, ger Rhydychen, ac yn Waltham Cross, Llundain. Bu f. 30 Ebr. 1963, a chladdwyd ef yng Nghaerdydd.

Yr oedd yn un o brif arweinwyr ei Gyfundeb yn ei ddydd. Bu'n llywydd Sasiwn y De (1920 ac 1954), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1927). Yr oedd yn areithydd digymar, yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyfrannai'n achlysurol i'r wasg, eithr dawn siarad oedd yr eiddo, nid ysgrifennu. Cyhoeddodd werslyfr (yn Saesneg ac yn Gymraeg) ar 2 Samuel (1899), ac esboniad ar epistolau Paul at y Philipiaid a'r Colosiaid (1909).

Llyfryddiaeth:

  • WwW (1921), 397;
  • WwFC (1951), 352;
  • Drys., 1927, 1-4;
  • Y Goleuad, 22 Mai 1963;
  • William Morris (gol.), Deg o Enwogion (1965), 35-40;
  • Blwyddiadur MC, 1964, 397;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe