REES, Syr JOHN MILSOM (1866 - 1952), llawfeddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r larincs

Enw: John Milsom Rees
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1952
Priod: Eleanor Rees (née Jones)
Rhiant: John Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r larincs
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd 20 Ebrill 1866, yn fab i John Rees, Castell-nedd, Morgannwg. Wedi bod yn efrydydd yn ysbyty Bartholomeus yn Llundain, cafodd ei gymwysterau meddygol yn 1889, ac ymhen tair blynedd cymerodd F.R.C.S. (Ed.). Wedi arbenigo ar feddygaeth y larincs penodwyd ef yn llawfeddyg i'r adran Clustiau, Trwyn a Gwddf ysbyty gyffredinol Tywysog Cymru, Tottenham a bu ganddo bractis ymgynghorol preifat yn Upper Wimpole Street. Daeth yn laringolegydd i'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ac i Ysgol Gerdd y Guildhall. Yn y cyswllt hwn yr oedd yn gynghorwr meddygol i gantorion enwocaf y dydd - Madam Patti, Dâm Nellie Melba, Madam Flagstad, Jan de Reszke, ac amryw eraill - ac yr oedd ar delerau cyfeillgarwch agos â hwy. Mwy nodedig fyth oedd ei wasanaeth maith a chlodwiw i'r Teulu Brenhinol; bu'n laringolegydd i'r Brenin Siôr V drwy gydol chwe blynedd ar hugain ei deyrnasiad, ac i'r frenhines Mary, y frenhines Alecsandra, a'r Frenhines Maude o Norwy. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1916, a'i ddyrchafu'n K.C.V.O. yn 1923, a G.C.V.O. yn 1934. Rhoes Prifysgol Cymru radd D.Sc. er anrhydedd iddo yn 1931.

Bu'n swyddogol gysylltiedig â llawer o brif ysbytai addysgol Llundain fel is-lywydd neu lywodraethwr. Yr oedd hefyd ar lys llywodraethwyr Prifysgol Cymru, a chymerodd ran weithredol ar gyrff llywodraethol The British Postgraduate School, Coleg Epsom, Nuffield Provincial Hospital Trust, a chyrff cyffelyb. Yn ychwanegol at ei lwyddiant rhyfeddol mewn cylchoedd proffesiynol amlygodd ragoriaeth mawr mewn llawer maes arall. Pan oedd yn fyfyriwr, yr oedd yn gricedwr, bocsiwr a chwaraewr rygbi o fri. Yn ddiweddarach daeth yn chwaraewr golff penigamp gan ennill safle gydwladol, ac yn ddiweddarach fyth cymerodd at helwriaeth big-game gyda'r un llwyddiant. Y mae hanes ei ymweliadau ag Affrica yn dadlennu ei ddiddordebau amrywiol mewn modd trawiadol. Byddai galw mawr ar ei grefftwaith lawfeddygol fedrus gan urddasolion lleol a chan benaethiaid brodorol; ceisid ei gyngor doeth ar fater adeiladaeth ysbytai newydd, ac ar brydiau cyfrannai'n hael at gost eu hadeiladu. Casglodd fuddiannau masnachol helaeth, mewn ystadau coffi yn Tanganyika, mwynfeydd halen yn Nyaza, a phrofodd y rhain yn anturiaethau llwyddiannus iawn.

Ymddeolodd i Broadstairs lle y parhaodd i gymryd diddordeb ymarferol a hael mewn addysg. Bu farw yno, 25 Ebrill 1952. Priododd ag Eleanor, merch William P. Jones, Finchley, cadeirydd Jones Brothers, Holloway a John Barnes, Cyf., yn 1894, a bu iddynt fab a merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.