Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES, JOHN SEYMOUR (1887-1963), gweinidog (A) ac awdur; mab John Rees a'i briod Magdalen (g. Evans), Glasgow House, Aberaeron, Cer., a fedyddiwyd ar 22 Gorff. 1887. Addysgwyd ef yn Aberaeron; Pencader; Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin (c. 1909-10); ac Athrofa Aberhonddu (1911-15), gan fynychu cwrs gradd o dan ei nawdd yng ngholegau Prifysgol Cymru yn Aberystwyth (1911) a Chaerdydd (1912). Gwasanaethodd Ebeneser, Cefncoedycymer (1915-22), lle yr ord. ef; Hermon, Treorci (1923-27) a Soar, Blaendulais (1927-45), cyn ei benodi'n ysgrifennydd Cyngor y Cristionogion a'r Iddewon (1945-63). Yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn a ddewisodd weithio yng Nghymru yn hytrach na derbyn galwad i wasanaethu yn Efrog Newydd, T.U.A., c. 1922, ac yn Radnor Walk, Llundain, yn 1926. Anerchodd Gyfundeb De Morgannwg o'r gadair yn 1943 a darlledodd sgyrsiau radio c. 1932 ymlaen.

Yn ei ddyddiau cynnar daeth yn adnabyddus fel awdur straeon byrion. Enillodd dair coron ac 16 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, ac 28 gwobr gyntaf yn yr Eist. Gen., yn bennaf am draethodau a bywgraffiadau, ond gydag amser tagwyd ei ddawn lenyddol gan ysfa fanylder, fel yn ei ysgrif ar ‘Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg’ yn 1952. Bu ei enw'n hysbys yn y wasg am dros 50 ml.; gw. Glyn L. Jones, Llyfryddiaeth Ceredigion 1600-1964 a'r Atodiad am restr o'i ysgrifau yn Y Dysgedydd, Cymru, Genhinen, Ymofynnydd a chylchgronau eraill. At y llyfryddiaeth gellir ychwanegu ei ddrama un act, ‘Y Canfasiwr’, yn Y Ford Gron, cyf. 5, rhif 1, dan y ffugenw J.C.M. Evans, a The history of Ynysgau Church, Merthyr Tydfil (c. 1958). Yr oedd yn hanesydd manwl a lloffwr di-ail. Gadawodd ar ei ôl tua 50 cyfrol wedi eu teipio'n ddifefl a'u rhwymo'n ddestlus ganddo ef ei hun (llsgrau. LlGC 18628-18865; 18866 llythyron ato). Cynhwysant gasgliadau o emynau, hanes emynwyr, beirdd, pregethwyr (yn arbennig gweinidogion (A) De Morgannwg hyd 1939); a straeon, hanes ac enwogion dyffryn Aeron, yn enwedig Ysgol Neuadd-lwyd. Lluniodd hefyd fynegeion i'r Beirniad a Geiriadur bywgraffyddol Josiah T. Jones (1867).

Pr., Ion. 1924, ag Annie Owen, Dyffryn, Rhydlewis, Cer., y bu galw mawr am ei gwasanaeth yn yr eglwysi, a bu iddynt fab. Bu f. 17 Meh. 1963.

Llyfryddiaeth:

  • Blwyddiadur A, 1910-16, ac 1964, 156;
  • a'r llsgrau. a nodwyd.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth