ROBERTS, EMMANUEL BERWYN (1869 - 1951), gweinidog (EF)

Enw: Emmanuel Berwyn Roberts
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1951
Priod: Annie Roberts (née Roberts)
Rhiant: Jemima Roberts
Rhiant: Morris Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd 31 Gorffennaf 1869 yn y Nant, Rhewl, plwy Llantysilio, Llangollen, Sir Ddinbych, yn un o un-ar-ddeg o blant Morris a Jemima Roberts. Symudodd y teulu i ardal Carrog lle bu Emmanuel yn brentis crydd, ond bu farw ei fam pan oedd ef yn 12 oed, ac mewn cryn dlodi ymfudodd y teulu i Ben-y-groes lle cafodd ef a'i dad waith yng Nghoedmadoc, Y Gloddfa Glai, yn rybela. Yno dechreuodd bregethu ac aeth i gynorthwyo gweinidog y Wesleaid Cymraeg yn Hanley, Swydd Stafford, a gweithio mewn gwaith dur ac yn y pwll glo yno. Yn 1891 aeth yn Was Cyflog ar gylchdaith Corwen, gan fyw yn Tŷ Nant, ac yna i swydd gyffelyb yn Ninas Mawddwy. Aeth i Goleg Richmond yn 1893, ac oddi yno yn weinidog-ar-braw i Ben-y-cae, Glyn Ebwy, yn 1895 a Threharris yn 1896. Yn 1897 penodwyd ef i gynorthwyo'r Parch. John Evans, Eglwys-bach ym Mhontypridd, ac ef a fynnodd roi iddo'r enw canol, Berwyn, am na chredai y dylid galw neb yn Emmanuel. Wrth yr enw newydd yr adweinid ef byth wedyn. Pan fu farw John Evans aeth yntau i Bont-rhyd-y-groes, ac yn 1899 ordeiniwyd ef yng Nghymanfa gyntaf y Wesleaid ym Machynlleth. Aeth i Gorris yn 1900 ac yno priododd Annie Roberts, merch fabwysiedig i David ac Ellen Roberts, Waterloo House, Caernarfon. Bu iddynt bedwar o blant, dwy ferch a briododd weinidogion Wesleaidd, a dau fab a ddaeth yn bregethwyr cynorthwyol.

Gwasanaethodd mewn deuddeg o gylchdeithiau, bu'n ysgrifennydd Ail Dalaith Gogledd Cymru o 1914 hyd 1933, yn Gadeirydd y Dalaith o 1933 hyd 1936 ac yn Llywydd y Gymanfa Gymreig yn 1930. Daeth i amlygrwydd yn gynnar fel esboniwr a dyna nodwedd amlycaf ei bregethu. Cyhoeddwyd ei Esboniad ar Ephesiaid yn 1902, ar Epistolau Petr yn 1904 a dwy gyfrol ar Efengyl Ioan yn 1931. Bu farw ym Mae Colwyn, 26 Ionawr 1951.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.