ROBERTS, Syr GEORGE FOSSETT (1870 - 1954), milwr, gwleidydd a gweinyddwr

Enw: George Fossett Roberts
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1954
Priod: Mary Roberts (née Parry)
Rhiant: H. Maria Roberts
Rhiant: David Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr, gwleidydd a gweinyddwr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 1 Tachwedd 1870 yn Aberystwyth, Ceredigion, trydydd mab David a H. Maria Roberts. Bu ei dad yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth am 44 mlynedd ac yn faer y Fwrdeistref ar dri achlysur. Addysgwyd ef mewn ysgol breifat yn Cheltenham. Ymunodd â chwmni ei dad a gwasanaethodd fel cyfarwyddwr a rheolwr Bracty Trefechan o 1890 hyd ei ymddeoliad yn 1935.

Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd seneddol (C) yng Ngheredigion yn 1910, a pharhaodd i gefnogi'r Ceidwadwyr ar hyd ei oes. Fe fu'n Swyddog Staff yr Embarkation Staff yn ystod Rhyfel Byd I, ac ef oedd arweinydd 102nd Field Brigade y Royal Artillery rhwng 1912 ac 1925.

Etholwyd ef yn aelod o gyngor tref Aberystwyth yn 1902, fe fu'n aelod ohono am 30 mlynedd ac yn faer yn 1912-13 ac 1927-28. Bu'n gadeirydd ar nifer fawr o'i bwyllgorau. Gwasanaethodd hefyd fel aelod o gyngor sir Ceredigion am 20 mlynedd. Yr oedd yn amlwg yng ngweithgareddau'r Llyfrgell Genedlaethol; etholwyd ef yn aelod o'r Llys yn 1914 ac o'r Cyngor yn 1919, bu'n drysorydd rhwng 1939 ac 1944 pan ddewiswyd ef yn Llywydd i olynu'r Arglwydd Davies, Llandinam. Dewisodd ymddeol o'r swydd yn 1950. Bu hefyd yn is-lywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yr oedd yn weithgar hefyd yng ngwasanaeth Ysbyty Cyffredinol Aberystwyth a bu'n gadeirydd Pwyllgor Rheoli Ysbytai Canolbarth Cymru, 1948-51. Yr oedd yn aelod o nifer fawr o bwyllgorau lleol, yn ŵr cyhoeddus yng nghyffiniau Aberystwyth ac yn weithgar yn eglwys Llanbadarn Fawr. Enillodd barch mawr oherwydd ei egwyddorion cadarn, ei garedigrwydd a'i haelioni, a'i gwrteisi di-ffael.

Dyfarnwyd yr O.B.E. iddo yn 1919, y T.D. yn 1922, urddwyd ef yn farchog yn 1935 a derbyniodd y C.B. yn 1942. Dyfarnwyd iddo radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1947. Dewiswyd ef yn ynad heddwch dros Geredigion yn 1906, fe fu'n Uchel Siryf yn 1911-12 ac yn Ddirprwy Lifftenant y sir o 1929.

Priododd, 29 Medi 1896, â Mary, merch hynaf John Parry, Glan-paith, Ceredigion. Bu hi farw 26 Mai 1947. Bu iddynt ddwy ferch. Ymgartrefent yng Nglanpaith, Rhydyfelin, Aberystwyth, ac am gyfnod yn Laura Place yn y dref. Bu farw 8 Ebrill 1954 yng Nglan-paith, cafwyd gwasanaeth yn eglwys Llanbadarn a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Aberystwyth. Ceir plac pres iddo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.