ROBERTS, HUGH GORDON (1885 - 1961), llawfeddyg a chenhadwr

Enw: Hugh Gordon Roberts
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1961
Priod: Katharine Roberts (née Jones)
Rhiant: Jane Sarah Roberts (née Jones)
Rhiant: David Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg a chenhadwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth
Awdur: Evan David Jones

Un o feibion David Roberts o Ddolenog, Llanidloes, Trefaldwyn, a'i wraig Jane Sarah, merch Thomas Price Jones o Lerpwl. Cofnodwyd ei enedigaeth yn Nosbarth Cofrestru Gorllewin Derby yn nhrydedd chwarter 1885, ond magwyd ef yn Lerpwl. Yr oedd yn orwyr i David Roberts (1788 - 1869), meddyg ym Modedern, Môn, ac yr oedd Syr William Roberts, F.R.S. (1830 - 1899), a oedd yn feddyg blaenllaw ym Manceinion a Llundain, yn ewythr i'w dad. Cefnder iddo oedd Frederick Charles Roberts (1862 - 1894) a fu farw'n ifanc o dwymyn pan oedd yn feddyg cenhadol yn Tientsin. Nid yw'n syndod, felly, iddo yntau newid ei feddwl ar hanner cwrs cyfrifydd i fynd yn feddyg cenhadol. Graddiodd yn M.B. a Ch.B. ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1912 ac yn M.D. yn 1920. Wedi priodi Katharine (marw 9 Ionawr 1966), merch John Jones, Lerpwl, yn 1913 aeth i weithio ym Mryniau Khasia, India. Bu iddynt fab a merch. Bu'n llawfeddyg sifil ym mhrifddinas Shillong ar fenthyg gan y Gymdeithas Genhadol (MC) i lywodraeth Assam, 1914-19. Rhoddodd hyn gyfle iddo i fesur a deall angen mawr y dalaith. Cyn ei ddydd ef meddyg teithiol fyddai gan y Genhadaeth, ond wedi'r rhyfel dychwelodd i Gymru i geisio gan yr eglwysi godi ysbyty yn Shillong. Rhoddodd £7000 ei hunan tuag ati ac agorwyd hi yn 1922. Ef oedd yr arolygwr a'r prif feddyg a llawfeddyg o'r cychwyn hyd 1942 pryd yr ymddeolodd oherwydd afiechyd. Trinid mwy o achosion llawfeddygol cymhleth yn yr ysbyty cenhadol nag yn holl ysbytai gwladol Assam gyda'i gilydd a daeth ei enw'n wybyddus i bawb drwy'r dalaith. Gyda chymorth Margaret Buckley ac eraill sefydlodd ysgol nyrsio yno. Bu'n aelod o Gyngor Deddfu Assam, 1921-24, yn arweinydd blaenllaw o Gyngor Meddygol Assam, 1920-43, a llywydd cangen Assam o Gymdeithas Feddygol Prydain, 1932-33. Daeth i Brydain yn 1945 a bu'n ysgrifennydd cyffredinol a golygydd Cymdeithas Genhadol Feddygol Llundain, 1946-48. Cryfhaodd ddigon i ddychwelyd i'r India yn 1949 i oruchwylio codi ysbyty newydd Jowai, rhodd Presbyteriaid Cymru i Bresbyteriaid Assam. Wedi gorffen y gwaith yn 1953 dychwelodd i Brydain, a bu'n byw yn West Kirby ac yn Eastbourne. Bu farw 20 Rhagfyr 1961.

Anrhydeddwyd ef â'r C.I.E. yn 1928, cafodd fedal aur Kaisar-i-Hind yn 1925 a medal Jiwbili'r Brenin yn 1935. Ef oedd llywydd Cymdeithasfa'r Dwyrain, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn 1937 a chafodd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1946.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.