ROBERTS, ROBERT MEIRION (1906 - 1967), gweinidog (MC, ac Eglwys Bresbyteraidd yr Alban), athronydd a bardd

Enw: Robert Meirion Roberts
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1967
Priod: Daisy Roberts (née Harper)
Rhiant: Catherine Elizabeth Roberts
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC, ac Eglwys Bresbyteraidd yr Alban), athronydd a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 28 Tachwedd 1906 yn Station House, Llandrillo, Meirionnydd, yn fab i Robert a Catherine Elizabeth Roberts. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Llandrillo, a'r Pentre, gerllaw'r Waun, sir Ddinbych; ysgol sir Llangollen; Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn athroniaeth); ac yng ngholegau diwinyddol ei enwad yn Aberystwyth a'r Bala. Dechreuodd bregethu yn 1924, ac ordeiniwyd ef yn 1933. Bu'n gweinidogaethu ym Mhenuel, Glynebwy (1933-37) a St. David's, Belmont, Amwythig (1937-38). Bu'n diwtor mewn athroniaeth a seicoleg yng Ngholeg Harlech (1938-40) ac yn ddarlithydd dros-dro ym Mangor (1940). Bu'n gaplan yn y fyddin (1940-46), yn weinidog eglwys Gymraeg Laird St., Penbedw (1946-52), ac yn gaplan drachefn yn y fyddin (1952-58). Ymunodd ag Eglwys Bresbyteraidd yr Alban yn 1958, a bu'n weinidog plwyf Applegarth a Sibbaldbie, swydd Dumfries, hyd ei farwolaeth. Priododd (1933) Daisy Harper o Lanrwst, a ganwyd iddynt ddau fab a thair merch. Bu farw 11 Ionawr 1967, a chladdwyd ef ym mynwent Applegarth.

Ymhyfrydodd mewn astudiaethau athronyddol ar hyd ei oes, a chafodd enaid cytûn yn ei gyfnod yn y Bala ym mherson y Prifathro David Phillips - cyfrannodd ysgrif goffa iddo i'r gyfrol Deg o enwogion (1959). Cyfrannodd ysgrifau yn weddol gyson ar bynciau athronyddol a diwinyddol i'r Efrydydd, Efrydiau athronyddol, Traethodydd, Y Llenor, a'r Drysorfa. Bu'n aelod o'r British Institute of Philosophy o 1929 ymlaen. Yr oedd hefyd yn fardd o gryn fri, a cheir llawer o'i gynhyrchion barddonol yn rhai o'r cylchgronau uchod. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, sef Plant y llawr (1946), ac Amryw ganu (1965). Detholwyd un o'i ganeuon i'r Oxford Book of Welsh Verse (1962).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.