ROBERTS, ROBERT ELLIS VAUGHAN (1888 - 1962), prifathro ysgol a naturiaethwr

Enw: Robert Ellis Vaughan Roberts
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1962
Priod: Edith Mary Roberts (née Davies)
Rhiant: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro ysgol a naturiaethwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Melfyn Richard Williams

Ganwyd ym Mryn Melyn, Rhyduchaf, ger y Bala, Meirionnydd, 24 Mawrth 1888, yn fab i William Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol Tŷ-Tan-Domen a graddiodd yn y gwyddorau yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1909. Cychwynnodd ar ei yrfa fel athro yn Ninbych, Clocaenog, a Rhosddu, Wrecsam, ac apwyntiwyd ef yn 1920 yn brifathro ysgol gynradd Llanarmon-yn-Iâl, flwyddyn ar ôl i Richard Morgan y naturiaethwr, ymddeol.

Yn 1942 fe'i penodwyd yn brifathro cyntaf ysgol dechnegol elfennol amaethyddol Llysfasi a bu yn y swydd hyd 1948 pan ddychwelodd i fod yn brifathro ysgol elfennol Llanarmon-yn-Iâl, hyd ei ymddeoliad yn 1953.

Bu'n gyfrannwr cyson i nifer o gylchgronau Cymraeg a Saesneg drwy gydol ei oes, yn cynnwys Y Cymro, Yr Herald Cymraeg, Meirionnydd, Yr Athro, Llafar, Y Genhinen, Y Gymdogaeth, Countryside, Country Quest a'r Crynhoad. Cyhoeddodd ddrama yn ymwneud â bywyd Cymreig ddoe a heddiw sef ' Stalwm, ac hefyd Llyfr Blodau a gyhoeddwyd yn 1952.

Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd er 1923 ac adnabyddid ef o dan yr enw ' Vaughan Tegid '. Bu hefyd yn aelod o Gymdeithas Canu Gwerin Cymru a chasglodd nifer o ganeuon, gan gyhoeddi rhai yn Chwe chân werin Gymreig (1938).

Bu'n gyd-olygydd a chyfrannwr i'r Chester and North Wales Natural Society o 1947 hyd 1954. Enillodd Fathodyn Coffa Kinsley yn 1934 ' For material contributions to several branches of natural science '.

Ef, ynghyd â'r Athro R. Alun Roberts, oedd arbenigwyr cyntaf Seiat Byd Natur, y rhaglen radio a gychwynnodd yn Ionawr 1951. Cafodd ergyd drom yn neng mlynedd olaf ei oes pan gollodd ei olwg, ond er hynny, parhaodd yn aelod o Seiat Byd Natur hyd ei farw yn Wrecsam, 3 Mawrth 1962. Fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Wrecsam.

Priododd Edith Mary Davies, Wrecsam, yn 1921 a bu iddynt fab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.