ROWLANDS, EDWARD DAVID (1880 - 1969), ysgolfeistr ac awdur

Enw: Edward David Rowlands
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1969
Priod: Jennie Ellen Rowlands (née Jones)
Rhiant: Catrin Rowlands (née Edwards)
Rhiant: Ellis Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 25 Tachwedd 1880 yn ffermdy Ty'n-y-fron, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i Ellis Rowlands a'i wraig Catrin (ganwyd Edwards). Addysgwyd ef yn ysgol y bwrdd Llanuwchllyn, ysgol ramadeg y Bala a'r Coleg Normal, Bangor (1899-1901). Bu'n athro i ddechrau yn ysgol Troed-yr-allt, Pwllheli (1901-08), ac yna'n brifathro yn olynol ar ysgolion elfennol Chwilog (1908-27) a Chyffordd Llandudno (1927-45). Heblaw ei ymroddiad fel ysgolfeistr, bu'n ddiwyd hefyd yn y byd llenyddol. Cyhoeddodd y gweithiau canlynol: Prif-feirdd Eifionydd (1914); Dial y Lladron (1934; 'nofel boblogaidd i blant yn seiliedig ar fywyd yr unigeddau' - arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, 1932); Bro'r Eisteddfod (1947; cyh. gan Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn); Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (1948) ac Atgofion am Lanuwchllyn (1975; rhai o drigolion ei hen fro fu'n gyfrifol am gyhoeddi'r gyfrol hon). Bu'n weithgar hefyd ym mywyd cyhoeddus yr ardaloedd y bu'n byw ynddynt, a gwasanaethodd fel maer Conwy yn 1939-40.

Priododd, 1906, Jennie Ellen Jones, Caernarfon (bu farw 1950), a ganed dau o blant iddynt, mab a merch. Bu farw yn Llandudno 26 Ebrill 1969 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Conwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.