RUSSON, Syr WILLIAM CLAYTON (1895 - 1968), diwydiannwr

Enw: William Clayton Russon
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1968
Priod: Gwladys Nellie Russon (née Markham)
Rhiant: Gertrude Emma Russon (née James)
Rhiant: William Russon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: David Brinley Clay Jones

Ganwyd 30 Mehefin 1895, mab William a Gertrude Emma (ganwyd James) Russon, Selly Park, swydd Warwick. Cymraes oedd ei fam, ond ni wyddys o ba ardal yr hanai. Cafodd ei addysg yn Ysgol King Edward VI yn Birmingham, ac yna ymddiddorodd mewn radio a datblygu busnes radio ei hun. Yr oedd yn hoff iawn o arddio ac yn 1932 prynodd gwmni R. & G. Cuthbert a arbenigai mewn tyfu a gwerthu rhosod a phlanhigion eraill yn Waltham Cross. Erbyn dechrau Rhyfel Byd II yr oedd y cwmni'n gwerthu hadau gardd hefyd, ac yn 1940 symudwyd i Ddolgellau ac yna i'r Bermo ac i Langollen yn 1942-43. Ymdaflodd yntau i fywyd Cymru. Ef oedd cadeirydd cyntaf Cymdeithas Diwydiant Gogledd Cymru yn 1944, a'i llywydd yn 1947. Bu'n uchel siryf Meirion yn 1947-48 a 1965-66. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu'r Eisteddfod Gydwladol yn Llangollen fel ei llywydd cyntaf yn 1947. Bu'n gadeirydd pwyllgor Cynilion Cenedlaethol ym Meirion o 1939 i 1947 ac anrhydeddwyd ef am ei waith dros y mudiad â M.B.E. yn 1946 ac O.B.E. yn 1952. Ef oedd llywydd Gŵyl Gwerin Cymru yn 1958, yr oedd ar bwyllgor Chwaraeon yr Ymerodraeth a'r Gymanwlad yn yr un flwyddyn, a'r flwyddyn honno urddwyd ef yn farchog am ei wasanaeth cyhoeddus i Gymru. Gwasanaethodd ar Gyngor Cymru o 1949 i 1963 gan fod yn gadeirydd ei banel ar dwristiaeth. Bu'n aelod o Gorfforaeth Datblygu Cymru o 1958 i 1963, ac yn gadeirydd nifer o gwmnïau hadau a chwmni Phostrogen, Corwen. Gwasanaethodd Urdd St. Ioan fel swyddog o 1960 a chodi'n gomander yn 1962 a marchog yn 1968. Cafodd ryddfreiniaeth dinas Llundain.

Priododd â Gwladys Nellie, merch Henry Markham o Dulwich yn 1931. Gwnaethant eu cartref yng Nglanymawddach ger y Bermo. Bu farw 16 Ebrill 1968, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Caerdeon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.