Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SALTER DAVIES, ERNEST (1872-1955), addysgydd; g. 25 Hyd. 1872 yn fab i Thomas Davies, gweinidog (B) a llywydd Coleg y Bedyddwyr, a'i wraig Emma Rebecca, Hwlffordd, Penf. Mynychodd ysgol ramadeg Hwlffordd, a C.P.C. Aberystwyth, a chael ysgoloriaeth yn y clasuron i Goleg Iesu, Rhydychen. Am gyfnod maith bu'n drefnydd ac arweinydd blaenllaw ym myd addysg yn Lloegr. Cychwynnodd ar ei yrfa fel athro yn Academi Glasgow, 1895-96, ac wedyn bu yn ysgol ramadeg Cheltenham nes cael ei benodi'n arolygwr addysg uwch yn swydd Caint yn 1904 a'i ddychafu'n gyfarwyddwr addysg y sir honno yn 1918, swydd a lanwodd gydag anrhydedd hyd nes iddo ymddeol yn 1938. At hyn, bu'n gynghorydd addysg i'r fyddin yn 1918 a charchar Maidstone o 1923 hyd 1938 ac etholwyd ef yn llywydd nifer o gymdeithasau addysg a llyfrgelloedd. Cydnabuwyd ei wasanaeth trwy ei wneud yn C.B.E. yn 1932 a derbyniodd M.A. er anrh. gan Brifysgol Adelaide yn 1937.

Hyd yn oed wedi iddo ymddeol yn swyddogol parhaodd i fod yn weithgar a dylanwadol ym myd addysg. Gwasanaethodd fel aelod o'r pwyllgor ar Addysg Amaethyddol Uwch i'r Weinyddiaeth Amaeth yn 1940 ac ar Gyngor Canolog Darlledu i Ysgolion hyd 1948, gan fod yn gadeirydd ei Bwyllgor Ysgolion Gwledig. Bu'n gadeirydd llawer o gyrff eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Carnegie yn y Deyrnas Unedig (1946-51), y bu'n ymddiriedolwr oes iddi er 1924.

Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir The Aim of Education (National Adult School Union); The Reorganisation of Education in England (New Education Fellowship); Education for Industry and for Life; Technical Education (The Schools of England), a golygodd Kenilworth a The Fortunes of Nigel gan Scott ar gyfer ysgolion. Fel golygydd y Journal of Education, cynhaliodd enw da'r papur hwnnw o 1939 hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth yn 83 ml. oed.

Pr., 1900, Evelyn May Lile (m. 1951) o Ddinbych-y-pysgod a bu iddynt ddau fab. Bu f. 10 Meh. 1955 yn ei gartref yn 13 Chichester Road, East Croydon, Surrey.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • The Times, 11 Meh. 1955, 10f.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth