Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAMUEL, HOWEL WALTER (1881-1953), barnwr a gwleidydd; g. 1881 yn Fforest-fach, Abertawe, yn fab i Thomas Samuel, gweithiwr tun yng ngwaith Cwmbwrla. Gadawodd ysgol y Cocyd yn 11 oed i weithio yng nglofa Charles, Fforest-fach. Cafodd ddamwain ac anafu un goes yn 1906 a bu'n gloff ac effeithiwyd ar ei iechyd weddill ei oes. Y ddamwain hon a newidiodd gwrs ei fywyd, gan iddo fagu blas at ddarllen yn ystod y misoedd y bu'n orweiddiog. Wedi ailddechrau gweithio aeth i bwll Garngoch 3 lle yr oedd David Rhys Grenfell (aelod seneddol Gŵyr yn ddiweddarach) yn gydymaith iddo. Cymerodd ddiddordeb mewn gweithgareddau sosialaidd a bu'n un o ysgrifenyddion Cymdeithas Lafur Abertawe. Mewn ysgol wyliau sosialaidd yn Caister-on-sea cyfarfu â Harriott Sawyer Polkinghorne, ysgolfeistres yn Llundain. Pr. hwy yn 1911 a bu hi'n symbylydd cryf iddo gyda'i astudiaethau yn y gyfraith a gwelodd ffrwyth ei hymdrechion pan alwyd ef i'r Bar yn y Deml Ganol yn 1915. Cafodd weld ei godi'n K.C. yn 1931, yn gofiadur Merthyr Tudful (1930-33) ac yn farnwr ar gylchdaith canolbarth Cymru i ddilyn Ivor Bowen (Bywg., 41-2) yn 1933. Oherwydd y dyrchafiad olaf hwn bu rhaid iddynt symud i fyw i Landrindod. Yn y cyfamser daeth yn aelod seneddol Llafur cyntaf dros etholaeth gorllewin Abertawe gan drechu Syr Alfred Mond o 115 pleidlais yn Rhag. 1923, ond collodd y sedd i Walter Runciman yn Hyd. 1924, ei chael eto ym mis Mai 1929, a'i cholli eto o fwy na chwe mil i Lewis Jones (gw. uchod) yn Hyd. 1931. Tyfodd i fod yn un o fargyfreithwyr blaenaf ei gyfnod yng Nghymru. Bu'n amlwg gydag achosion iawndâl i weithwyr a bu'n gadeirydd tribiwnlys gwrthwynebwyr cydwybodol yn ne Cymru am rai blynyddoedd. Yr oedd yn alluog a dewr iawn, a chanddo'r ddawn i wneud cyfeillion ym mhob cylch.

Bu ei wraig f. yn Abertawe, 19 Awst 1939, a phr. (2) yn Llandrindod 24 Ebr. 1941 ag Annie Gwladys, gweddw Syr Henry Gregg a merch David Morlais Samuel, Abertawe. Yr oedd hi'n aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw 'Morlaisa'. Bu ef f. 5 Ebr. 1953.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • The Times, 7 Ebr. 1953;
  • WWP.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth