Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SEAGER, JOHN ELLIOT (1891-1955), perchennog llongau; g. 30 Gorff. 1891, yn fab hynaf Syr William Henry Seager a Margaret Annie (g. Elliot), a brawd George Leighton Seager (gw. uchod). Pr., 26 Mai 1922, â Dorothy Irene Jones o Bontypridd, a bu iddynt bedwar o blant. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg y Frenhines, Taunton, cyn ymuno â chwmnïau llongau ei dad lle y cafodd brofiad eang o oruchwylio'r gwaith, rheoli'r llongau masnach a'u darparu ar gyfer eu taith. Cyn hir daeth yn gyfarwyddwr tua deuddeg o gwmnïau llongau a rhai diwydiannol a bu'n gadeirydd nifer ohonynt. Am gyfnod bu'n gynghorwr mygedol yn y Weinyddiaeth Fwyd ar sicrhau nwyddau llongau. Bu'n Y.H. ac yn Uchel Siryf Morgannwg, 1937-38. Cymerai ddiddordeb mawr mewn gwaith cymdeithasol ac elusennol, yn enwedig ar ran cymdeithasau ieuenctid ac ysbytai. Gweithiai'n ddiarbed a gwnâi bopeth yr ymgymerai ag ef yn drylwyr. Yn ystod Rhyfel Byd I ymunodd â'r South Wales Borderers ac enillodd M.C. Bu f. 8 Ion. 1955 yn ei gartref, Tŷ Gwyn Court, Caerdydd.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • The Times, 10 Ion. 1955.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth