Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SEAGER, GEORGE LEIGHTON (1896-1963; BARWN LEIGHTON o Laneirwg (St. Mellons) , 1962), masnachwr a pherchennog llongau; g. 11 Ion. 1896 yn fab ieuangaf Syr William Henry Seager (sylfaenydd cwmni llongau W.H. Seager) a Margaret Annie (g. Elliot) ei wraig, Lynwood, Caerdydd, a brawd John Elliot Seager (gw. isod). Ar ôl gadael Coleg y Frenhines, Taunton, yn 16 oed aeth ar daith i Dde America ac ar y Cyfandir. Ar ddechrau Rhyfel Byd I cafodd gomisiwn gyda'r Artists' Rifles (catrawd Llundain) ac wedi hynny gwnaeth wasanaeth gwirfoddol gyda'r Weinyddiaeth Fwyd. Dychwelodd i Gymru i gynorthwyo'i dad a'i frawd hynaf ym musnesau niferus y teulu. Rhoddodd sylw arbennig i'r adran longau ac ni fu fawr o dro cyn cael ei ystyried yn arbenigwr yn y maes. Yn 1929 bu'n gynghorwr masnachol i'r Llywodraeth pan aeth gyda dirprwyaeth i Ganada. Daeth yn gyfarwyddwr llawer iawn o gwmnïau ac yn gadeirydd Cymdeithas Perchnogion Llongau Môr Hafren, Siambr Masnach Fôr y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag amryw bwyllgorau yn ymwneud â diweithdra yng Nghaerdydd. Bu hefyd yn llywydd Siambr Fasnach Caerdydd. Bu'n hael a gweithgar gyda chymdeithasau elusennol, yn enwedig rhai er bydd addysg ac iechyd morwyr. Gwasanaethodd fel Y.H. dros sir Fynwy ac ef oedd Is-lifftenant y sir o 1957 hyd ei farw. Urddwyd ef yn farchog yn 1938, gwnaed ef yn farwnig yn 1957 ac yn farwn yn 1962. Pr. yn 1921 â Marjorie, merch William Henry Gimson, Brych., a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu'n byw yn Marley Lodge, Llaneirwg a bu f. 17 Hyd. 1963.

Llyfryddiaeth:

  • Debrett, 1962, 775;
  • Www;
  • WWP;
  • The Times, 18 a 25 Hyd. 1963.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth