Galluogwyd ef drwy arsylwad maith a thrylwyr i lunio ‘Siart Glo Seyler’ a enillodd gymeradwyaeth ryngwladol. Trwy gyfrwng hon gellir casglu gwybodaeth am fater ehedog ac enrhifau caloriffig yn ddidrafferth. Ar gorn y gwaith tra arbenigol hwn dyfarnodd y South Wales Institute of Engineers ei fedal aur iddo yn 1931 ac ychwanegu bar ati yn 1937. Yn 1941 cafodd fedal aur Melchett gan y Sefydliad Tanwydd.
Ar ôl cryn betruso ymadawodd ag Abertawe, a fuasai'n wir dref fabwysiedig iddo am fwy na hanner can mlynedd di-fwlch, i gymryd at swydd ymgynghorwr cyffredinol i'r British Coal Utilisation Research Association yn 1942, ac yn bennaeth ar ei hadran Systemateg a Phetroleg glo. Daliodd y ddwy swydd nes ymddeol yn 1957. Tyst o'i enwogrwydd rhyngwladol oedd ei ethol yn 1955 yn llywydd cyntaf y Pwyllgor Rhyngenedlaethol ar Betroleg Glo. Ar ôl ymddeol parhaodd yn ymgynghorwr mygedol i B.C.U.R.A.
Cyhoeddwyd ei waith ar ddosbarthu gwahanol fathau o lo am y tro cyntaf yn 1907 fel rhagymadrodd i Analysis of British coal and coke Greenwell ac Elsden yn 1907. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Classification of coal: World Engineering Congress, Tokyo (1929); Petrography and the classification of coal, I a II. (1931 ac 1937); Fuel technology (1931); Description of Seyler's fuel chart (1933); Selection of coals for steam raising (1934); Recent progress in petrology of coal (darlith Melchett, 1941); Die Entwicklung der Kohlen-Petrographie (1951); gyda W.H. Edwards, The microscopical examination of coal (1929), a chydag Illingworth a Wheeler, Report on explosions in anthracite stoves (1924).
Fel newid o'i astudiaethau gwyddonol hyfrydwch iddo oedd troi ei feddwl clir a threiddgar at hanes a hynafiaethau lleol ac enwau lleoedd, cyfrannu erthyglau ar y pynciau hyn neu baratoi darlithiau ar gyfer y Sefydliad Brenhinol yn Abertawe. Gw. ei erthyglau yn Arch. Camb., e.e. ‘Early charters of Swansea and Gower’, a ‘Stedworlango: the fee of Penmaen in Gower’ (1920), ‘Seinhenyd, Ystumllwynarth and Ynysgynwraid: some place-names and folk-lore in Wales’ (1950). Cyfrannodd bapurau i drafodion Cymdeithas Peirianwyr de Cymru a'r Gymdeithas Frenhinol.
Yr oedd yn llywydd clwb Rotari Abertawe, 1929-30, Sefydliad Peirianwyr de Cymru, 1931-32, a Sefydliad Brenhinol Abertawe, ac yn aelod o gyngor yr Amgueddfa Genedlaethol ac o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru a Chymdeithas Hynafiaethol Surrey. Yr oedd ganddo radd B.Sc. (Llund.) a chafodd D.Sc. (Cymru) er anrh. yn 1938. Yr oedd yn F.R.I.C.
Pr. Ellen Andrews yn 1895 a bu iddynt ddwy ferch. Chwaer iddo oedd Athène Seyler, C.B.E., yr actores, a fu farw yn 101 oed yn 1990. Bu f. ef 24 Gorff. 1959.
William Cyril Rogers, (1911-95), Abertawe