SNELL, DAVID JOHN (1880 - 1957), cyhoeddwr cerddoriaeth

Enw: David John Snell
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1957
Priod: Elizabeth Snell (née Evans)
Rhiant: Eliza Snell (née Lewis)
Rhiant: Henry Snell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr cerddoriaeth
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd 1 Awst 1880 yn 44 Dyvatty Terrace, Abertawe, mab Henry ac Eliza (ganwyd Lewis) Snell. Yn 1900 ymsefydlodd mewn busnes yn Alexandra Arcade, Abertawe, yn gwerthu cerddoriaeth, offerynnau cerdd a recordiau. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, pan ymddeolodd y cyhoeddwr Benjamin Parry (1835 - 1910) a fuasai'n gweithio yn Abertawe er 1878, prynodd Snell ei stoc a'i hawlfreintiau a thrwy hynny ddechrau ar waith mawr ei oes. Yn 1916 talodd £1150 i weddw Joseph Parry (1841 - 1903), am stoc a hawlfreintiau'r gweithiau a gyhoeddodd y cyfansoddwr, a thua'r un pryd prynodd fusnes David Jenkins (Bywg., 406-7), Aberystwyth, a fuasai farw yn 1915. Yn ystod y dauddegau ychwanegodd at ei gatalog trwy brynu cynnyrch cwmnïau cyhoeddi a ddaethai i ben ynghyd â gweithiau cyfansoddwyr a gyhoeddai eu gwaith eu hunain, ac ailgyhoeddi'r cyfan o dan ei enw ei hun. Pwrcasodd ymhlith pethau eraill gynnyrch cerddorol y cyhoeddwyr Isaac Jones (1835 - 1899), Treherbert; Daniel Lewis Jones ('Cynalaw'; 1841 - 1916), Llansawel ac Aberteifi; John Richard Lewis (1857 - 1919), Caerfyrddin; y North Wales Music Co., Bangor; a'r Cwmni Cenedlaethol Cymreig, Caernarfon. Erbyn 1939 yr oedd ganddo gatalog sylweddol o bymtheg cant o eitemau, a byddai'n cynnig gwobrau i bwyllgorau eisteddfodol a ddewisai ei gyhoeddiadau yn ddarnau prawf. Ailgyhoeddodd weithiau poblogaidd megis ' Myfanwy ' (Joseph Parry) a ' Yr hen gerddor ' (David Pugh Evans, Bywg., 212), ond cyhoeddodd hefyd ddarnau newydd o safon, gan gynnwys ' Bugail Aberdyfi ' (Idris Lewis), ' Paradwys y bardd ' (W. Bradwen Jones; gweler Jones, William Arthur uchod) a Saith o ganeuon a ' Berwyn ' (D. Vaughan Thomas, Bywg., 886). Bu'n gyfrifol yn ogystal am gyhoeddi cyfrolau o osodiadau cerdd dant gan Haydn Morris a Llyfni a Mallt Huws. Collodd gyfran helaeth o'i stoc yn y cyrchoedd awyr ar Abertawe yn 1941, ond daliodd i gyhoeddi wedi'r rhyfel. Yn wahanol i rai o'i ragflaenwyr yn y maes nid oedd Snell ddim amgen na chyhoeddwr, ac ni bu'n argraffu ei gynnyrch. Adweinid ef yn ŵr busnes gyda'r craffaf, ac fe'i gelwid yn ' Mr. Music ' ei dref enedigol. Priododd 1906 ag Elizabeth Evans (bu farw Ebrill 1957) o Dalacharn, a bu iddynt bedwar mab. Bu ef farw 13 Ionawr 1957.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.