STEPHEN, DOUGLAS CLARK (1894 - 1960), golygydd papur newydd

Enw: Douglas Clark Stephen
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1960
Priod: Lucy Helena Stephen
Rhiant: John Thomson Stephen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd papur newydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Leicester, 1894, yn fab i John Thomson Stephen a'i wraig. Cychwynnodd ar ei yrfa newyddiadurol drwy gynorthwyo'i dad fel gohebydd chwaraeon a newyddion cyffredinol i'r Press Association. Ar ôl pum mlynedd o hyfforddiant ar y Leicester Mail penodwyd ef yn is-olygydd y Sporting Chronicle ym Manceinion, a bu'n gweithio ar y North Star yn Darlington am gyfnod byr cyn dod yn is-olygydd y South Wales Echo yn 1916. Penodwyd ef yn olygydd y papur hwnnw yn 1922 ar adeg pan oedd cystadleuaeth frwd rhwng y papurau lleol pryd yr unwyd y South Wales News â'r Western Mail, a'r Evening Express â'r South Wales Echo. O dan ei gyfarwyddyd cynyddodd maint, cylchrediad a dylanwad yr Echo yn sylweddol. Disgwyliai safon broffesiynol uchel gan ei weithwyr a didwylledd llwyr. Rhoddodd gyngor, cefnogaeth a chymorth i newyddiadurwyr pob cenhedlaeth yn eu tro, a daeth nifer ohonynt, fel Percy Cudlipp, yn enwau adnabyddus yn Fleet Street yn ddiweddarach. Yn 1946 yr oedd yn un o'r deg golygydd taleithiol a deithiodd drwy Ffrainc ar wahoddiad y Wasg Daleithiol Ffrengig. Etholwyd ef yn gymrawd Sefydliad y Newyddiadurwyr yn 1951 ac ef oedd llywydd y sefydliad ddwy fl. yn ddiweddarach. Yn 1955 etholwyd ef yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr y Western Mail and Echo Ltd. Ymddeolodd yn 1957 ond y flwyddyn ddilynol bu'n swyddog cynorthwyol y wasg yng Ngemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd, a chafwyd canmoliaeth o bob cwr o'r byd i'r adnoddau a drefnwyd ganddo ar gyfer y wasg bryd hynny. Bu farw 4 Mehefin 1960 yn ei gartref, 7 Holmwood Terrace, Cyncoed, Caerdydd, gan adael gweddw, Lucy Helena Stephen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.