Yr oedd yn bregethwr nodedig yn nyddiau'i nerth, a châi oedfeuon eirias ar adegau. Cyfrinydd ydoedd wrth natur, ac er cymaint oedd ei ddiddordeb mewn diwinyddiaeth, hanes ac emynyddiaeth, y cyfrinwyr oedd ei hoff fyfyrdod. Bu'n ŵr amlwg ym mywyd ei Gyfundeb; bu'n llywydd Sasiwn y De (1938), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1945). Cyhoeddodd esboniad ar Lyfr yr Actau yn 1925. Traddododd y Ddarlith Davies (1934), ac fe'i cyhoeddwyd yn gyfrol swmpus yn 1938 dan y teitl Howel Harris yn Llundain. Trwythodd ei hun yn hanes ac ethos Methodistiaeth Galfinaidd Cymru; ef oedd cadeirydd Pwyllgor Hanes y Cyfundeb (1939-52), a chyfrannodd lawer i Gylchgrawn y Gymdeithas Hanes. Ceir ei ysgrifau craff ar y ‘tadau’ Methodistaidd yn y llyfryn hardd a gyhoeddodd Henaduriaeth Llundain yn 1935 i ddathlu deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd. Bu'n olygydd Y Drysorfa (1929-33), ac ysgrifennodd lawer i'r cylchgrawn hwnnw yn ogystal ag i'r Traethodydd a'r Goleuad. Yr oedd ganddo reddf a thrylwyredd y gwir hanesydd; mynnai fynd i lygad y ffynnon bob amser; ei duedd oedd rhedeg ar ôl ambell ysgyfarnog, a hynny efallai yw gwendid ei Ddarlith Davies. Yr oedd ei arddull bedantig a gor-ramadegol hefyd yn faen tramgwydd i lawer o'i edmygwyr. Bu'n aelod o bwyllgor Llyfr emynau'r Methodistiaid (1927), a chwilotodd lawer ar hanes yr emynwyr a'u cynhyrchion. Ef a baratôdd y llawlyfr poblogaidd ar y casgliad uchod, Emynau a'u hawduriaid (1947; 1961, arg. newydd ‘wedi ei ddiwygio, gydag ychwanegiadau’, gan Gomer M. Roberts). Arfaethasai gyhoeddi cofiant i'w ewythr hyglod, Joseph Jenkins, a chyhoeddwyd yr hyn a baratôdd yn Y Drysorfa, 1961-63.
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe