Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THODAY, DAVID (1883-1964), botanegydd, Athro prifysgol; g. 5 Mai 1883 yn Honiton, Dyfnaint, yr hynaf o chwe phlentyn David a Susan Elizabeth (g. Bingham) Thoday. Ysgolfeistr oedd y tad, a symudodd y teulu i Lundain lle y cafodd y mab ei addysg yn ysgol ramadeg Tottenham, 1894-98, cyn ymaelodi yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt yn 1902. Arbenigodd mewn botaneg o dan gyfarwyddyd H. Marshall Ward, A.C. Seward a F.F. Blackman. Cafodd ddosbarth cyntaf yn nwy ran y Tripos yn 1905 ac 1906 ac enillodd Fedal Walsingham yn 1908. Wedi treulio dwy fl. (1909-11) yn Arddangosydd (‘Demonstrator’) Prifysgol mewn botaneg yng Nghaergrawnt penodwyd ef yn ddarlithydd mewn botaneg ffisiolegol ym Mhrifysgol Manceinion yn 1911 ac yna yn 1918 i Gadair Harry Bolas mewn botaneg ym Mhrifysgol Cape Town, De Affrica. Yn 1923 aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn Athro Botaneg, yn olynydd i Reginald W. Phillips, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1949. Ar ôl ymddeol bu'n athro ffisioleg planhigion ym Mhrifysgol Alexandria, yr Aifft, ond dychwelodd i Fangor yn 1955.

Enillodd radd Sc.D. (Caergrawnt); etholwyd ef yn F.R.S. yn 1942 a dyfarnwyd iddo radd D.Sc. (Cymru) er anrh. yn 1960. Cyhoeddodd Botany: a textbook for senior students (1915; 5 argraffiad) a nifer o erthyglau pwysig yn ei faes gan gynnwys cyfres ar y planhigion suddlon Kleinia articulata, yn arbennig eu metabolaeth asidig. Yr oedd ei ddarlith lywyddol i'r British Association, Adran K, yn 1939, ‘The interpretation of plant structures’, yn arloesol.

Cynorthwywyd ef yn llawer o'i waith gan ei wraig a br. 15 Meh. 1910, hithau, dan ei henw Mary Gladys Sykes o Goleg Girton a chymrawd ymchwil Coleg Newnham, yn awdur nifer o bapurau ar destunau botanegol. Merch John Thorley Sykes o'r Orsedd, Dinb., oedd hi, a bu iddynt bedwar mab. Bu f. ei wraig yn 1943, a bu yntau f. yn Llanfairfechan 30 Maw. 1964.

Llyfryddiaeth:

  • Biog. Memoirs Fellows R.S., xi (1965), 177-83;
  • gw. ibid., 184-5 am lyfryddiaeth ei bapurau gwyddonol, 1905-63;
  • The Times, 1 Ebr. 1964.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth