Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, DAVID (1880-1967), addysgwr, awdur ac arloeswr y Blaid Lafur yng ngogledd Cymru; g. 16 Gorff. 1880 yn fab i David Thomas a'i briod Elizabeth (g. Jones), Quarry Cottage, Llanfechain, Tfn. Addysgwyd ef yn ysgolion Llanfechain a Llanfyllin gyda thymor yn ysgol ramadeg Croesoswallt cyn dechrau gweithio mewn siop ddillad yn Llanfyllin. Cyn hir aeth yn ddisgybl-athro (1895-99) yn yr ysgol Frytanaidd yno, a chael swydd athro didrwydded ym Mhen-sarn, ger Amlwch, Pen-y-bont ar Ogwr, a Walton-on-Thames. Manteisiodd ar y cyfle i fynychu dosbarth yn Llundain ar y Sadyrnau i'w baratoi ei hun ar gyfer arholiad i ennill tystysgrif athro. Bu'n dysgu wedyn yn Cradley; Rhostryfan (1905-09); Tal-y-sarn, Caern. (1909-20); ac Ysgol Ganolraddol Bangor (1922-45). Ac yntau'n wrthwynebwr cydwybodol, bu'n gweithio ar fferm ger Wrecsam yn ystod Rhyfel Byd I a threuliodd gyfnod byr (1920-22) yn ysgrifennydd Cyngor Llafur Gogledd Cymru, pryd yr ymgartrefodd yng nghyffiniau'r Drenewydd.

Wedi dychwelyd i Gymru, gweithiodd yn egnïol i ffurfio undebau llafur a changhennau o'r Blaid Lafur Annibynnol yng ngogledd Cymru, gan gynorthwyo i sefydlu Cyngor Llafur sir Gaernarfon yn 1912 a Chyngor Llafur Gogledd Cymru yn 1914 (bu'n ysgrifennydd iddo am gyfnod). Cymerodd ran flaenllaw mewn dadl ar Sosialaeth yn Yr Herald Cymraeg yn 1908 ac yn dilyn hynny cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Y werin a'i theyrnas (1910), a ddylanwadodd ar nifer o undebwyr a Llafurwyr Cymru. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn addysg pobl mewn oed. Bu'n athro ar ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn sir Gaernarfon am gyfnod hir (1928-59), a daliodd gysylltiad swyddogol â'r gymdeithas hyd ei f. Yn 1944 cychwynnodd Lleufer, cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr y bu'n ei olygu hyd 1965. Cafodd radd M.A. am draethawd ar ‘A study of a rural and maritime community in the nineteenth century, with special reference to the relation between agriculture and shipping’ (Lerpwl, 1928), ac M.A. er anrh. Prifysgol Cymru yn 1960.

Yr oedd yn areithydd a darlledydd radio effeithiol iawn ac ysgrifennodd lawer, yn erthyglau, pamffledi a llyfrau, ar bynciau amrywiol, gan gynnwys: Y Blaid Lafur a dinasyddiaeth y gweithiwr (1912), Y Cynganeddion Cymreig (1923), Y ddinasyddiaeth fawr (1938), Hen longau a llongwyr Cymru (1949), Cau'r tiroedd comin (1952), Llafur a senedd i Gymru; ysgrifau, llythyrau a sgyrsiau (1954), cofiant Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 (1956), Ann Griffiths a'i theulu (1963); a cholofn ‘Glendid iaith’ yn Y Faner (c. 1957-62). Cyflwynwyd iddo gyfrol Ben Bowen Thomas (gol.), Lleufer y werin; cyfrol deyrnged i David Thomas, MA (1965), a chyhoeddwyd wedi ei f. ei hunangofiant, Diolch am gael byw (1968). Cedwir rhai o'i bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Pr., 26 Gorff. 1919, ag Elizabeth Ann Williams, New Broughton (bu f. 1955 ar ôl gwaeledd maith) a bu iddynt fab a merch. Bu f. yng nghartref ei ferch, gweddw Herman Jones (gw. uchod), yn 2 Pen-y-bryn, Burry Port, Caerf. ar 27 Meh. 1967.

Llyfryddiaeth:

  • Ei hunangofiant;
  • D. Ben Rees, Cymry adnabyddus, 1952-1972 (1978);
  • WWP.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth