THOMAS, DAVID FFRANGCON (1910-1963), sielydd;
g. 19 Medi 1910 ym Mhlas-marl, Abertawe, mab W. Roger Thomas. Cafodd ei enw Ffrangcon ar ôl y canwr David Thomas Ffrangcon Davies (Bywg., 108), un o arwyr ei dad. Pan oedd yn un ar ddeg oed dechreuodd ddysgu'r sielo gyda Gwilym Thomas, Port Talbot, ac ymhen dwy flynedd enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sielo Herbert Walenn yn Llundain. Cafodd wobrau yn eisteddfodau Cenedlaethol Pont-y-pŵl (1924) ac Abertawe (1926). Wedi astudio ymhellach yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle'r enillodd fedalau efydd ac arian, ynghyd ag ysgoloriaeth Ada Lewis, bu'n aelod o nifer o gerddorfeydd, gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Simffoni y B.B.C. Bu'n perfformio hefyd yn Neuadd Wigmore ac yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden. Yn ystod Rhyfel Byd II bu'ngwasanaethu yn y fyddin ac yna bu'n astudio ym Mhrâg wrth draed Pravoslav Sadlo a Rafael Kubelik. Cafodd yrfa brysur fel unawdydd ym Mhrydain a theithiodd i Awstralia a'r Dwyrain Pell. Ffurfiodd ddeuawd gyda'r telynor Osian Ellis, gan ddarlledu a gwneud record i gwmmi Delysé. Ymdrechodd i sefydlu cerddorfa Gymreig, a llwyddodd i gynnal pedair cyngerdd yn 1954-55. Pr. Dorothy C. Mallinson yn 1941 a bu iddynt ferch. Bu f. 10 Rhag. 1963 yn Llundain a chladdwyd ei lwch yn eglwys Nicholaston ym mro Gŵyr.
Llyfryddiaeth:
- WWP;
- West. Mail, 11 Rhag. 1963;
- [Y Ddinas, (Llundain), 1, rhif 5, Chwef. 1947, 8].
Awdur:
Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth