Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , MARGARET HAIG , IS-IARLLES RHONDDA ( 1883 - 1958 ), awdures, golygydd, a chadeirydd cwmnïau ; g. 12 Meh. 1883 yn Bayswater , Llundain yn unig blentyn David Alfred Thomas ( Bywg. , 884-5) a'i wraig, Sybil Margaret , merch George Augustus Haig , Pen Ithon, Maesd. Addysgwyd hi i ddechrau gan athrawesau preifat yn y cartref. Yna danfonwyd hi i ysgol uwchradd Notting Hill , lle y cychwynnodd gylchgrawn argraffedig, The Shooting Star , y cyfrannai ei pherthnasau iddo. Oddi yno aeth i Ysgol St. Leonard yn St. Andrews , yn yr Alban , gwlad ei theidiau Haig . Bu am ychydig yng Ngholeg Somerville , Rhydychen , ond ni bu'n gartrefol yno. Nid ymhoffai chwaith ym mywyd cymdeithasol dinas Llundain , gwell oedd ganddi unigeddau Sir Faesyfed o gylch Pen Ithon a thirionwch Llan-wern , ei chartref yng Ngwent . Ni ddysgodd ddim Cymraeg oddigerth brawddeg fer i'w defnyddio wrth ganfasio yn etholiadau ei thad ym Merthyr Tudful . Ymdaflodd i ddiddordebau diwydiannol ei thad, gan weithredu fel ysgrifennyddes iddo, darpariaeth fuddiol ar gyfer y cyfnod pan fu raid iddi gymryd ei lle ar fyrddau diwydiannol ei thad pan ddaeth galwadau gwaith llywodraeth yn drwm ar ei ysgwyddau, ac ar ôl ei f. yn 1918 .

Yn 1908 pr. Humphrey Mackworth ( barwnig ar farwolaeth ei dad yn 1914 ) yn Eglwys y Drindod ger Caerllion, Myn. Ieuad anghymarus oedd hon, ef 12 ml. yn hŷn na hi, heb nemor ddim diddordeb ar wahân i'w gŵn hela — ef oedd meistr erchwys Llangybi Fawr — hi'n ddarllenwraig fawr, yntau braidd fyth yn agor llyfr; ef yn Geidwadwr , hithau'n ferch i Ryddfrydwr blaenllaw, er iddi o ymdeimlad o ddyletswydd ymddeol o gyngor lleol y Gymdeithas Ryddfrydol pan briododd. Gwnaethant eu cartref yn Llansoar heb fod ymhell o dŷ ei rhieni. Cyn pen pedwar mis, ar waethaf anfodlonrwydd ei gŵr, yr oedd wedi ymdaflu i weithgareddau beiddgar canlynwyr Mrs. Pankhurst gan orymdeithio gyda'i chyfnither Florence Haig yn Hyde Park . Ymunodd â'r Women's Social and Political Union a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd dros bleidlais i ferched . Neidiodd ar astell modur H.H. Asquith yn St. Andrews . Dysgodd sut i roi tân mewn blychau post cyhoeddus a gweithredu yng Ngwent nes cael dedfryd mis o garchar ym Mrynbuga . Gan iddi wrthod bwyta, fe'i rhyddhawyd ar ôl pum niwrnod. Hi oedd gohebydd cangen Casnewydd o'r mudiad.

Yr oedd hi a'i thad ymhlith y rhai a achubwyd pan suddwyd y Lusitania gan fad tanfor Almaenig yn 1915 . Ar ôl dychwelyd adref bu'n gomisiynydd dros wasanaeth cenedlaethol merched yng Nghymru ac yn 1918 gwnaethpwyd hi'n brif reolwr recriwtio merched ym Mhrydain . Pan fu ei thad f. etifeddodd hithau'r is-iarllaeth yn unol â darpariaeth arbennig a wnaed gan Lloyd George pan ddyrchafwyd ei thad i'r is-iarllaeth ac yntau heb etifedd gwryw. Cyflwynodd hithau ddeiseb am gael gwŷs i Dŷ'r Arglwyddi yn 1920 , ac er fod yr Arglwydd Hewart a'r Pwyllgor Breiniau o blaid, o dan arweiniad yr Arglwydd Birkenhead pleidleisiodd mwyafrif mawr y yn erbyn caniatäu ei chais. Iddi hi datblygiad cwbl naturiol o'i hymdrechion dros gydraddoldeb i ferched oedd y ddeiseb. Er iddi fethu, llwyddodd yr un flwyddyn gyda grŵp o ferched o gyffelyb fryd i ffurfio cwmni cyhoeddi'r wythnosolyn dylanwadol Time and Tide fel papur cwbl annibynnol ar na sect na phlaid i gyfarfod â gofynion cyfnod newydd wedi'r rhyfel. Hi fu'n ei olygu am weddill ei hoes, a'i stamp hi oedd arno, er mai Helen Archdale a olygodd y rhifynnau cyntaf. Drwy Time and Tide y sylweddolodd hi un o freuddwydion ei hieuenctid. Llwyddodd i ddenu cyfranwyr o allu ac o fri i'r papur. Yng nghanol ei holl brysurdeb — yr oedd yn ynad heddwch ym Myn. ac yn 1926 yr oedd yn llywydd yr Institute of Directors — a galwadau trefnyddiaeth ddiwydiannol yn drwm arni a'i iechyd hithau'n fregus — mynnodd gadw golwg barcud ar holl gynnwys y papur am bron 38 ml. Ei gofal mawr yn ystod misoedd olaf ei bywyd oedd sicrhau i'r papur seiliau ariannol diogel, a llwyddodd yn ei hymdrech. Safai'n gadarn dros ryddid yr unigolyn . Iddi hi yr oedd pob bod dynol, gwryw neu fenyw, i'w drin fel unigolyn a chanddo enaid anfarwol. Cyhoeddodd D. A. Thomas, Viscount Rhondda ( 1921 ), Leisured Women ( 1928 ), This was my world ( 1933 ) a Notes on the way ( 1937 ). Bu'n llywydd Coleg y Brifysgol , Caerdydd o 1950 i 1958 a dyfarnwyd iddi radd LL.D. Prifysgol Cymru er anrh. yn 1955 .

Cafodd ysgariad oddi wrth ei gŵr yn 1923 . Ni bu iddynt blant a daeth y teitl i ben gyda'i marw hi yn ysbyty Westminster ar 20 Gorff. 1958 .

Llyfryddiaeth:

  • Western Mail , The Times a Time and Tide , Gorff. 1958 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The Complete Peerage , 1910–40 ;
  • gw. Who's who in Wales ( 1921 ), 402 am restr o'r cwmnïoedd yr oedd yn gadeirydd neu'n gyfarwyddwr iddynt bryd hynny.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth