Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, EVAN LORIMER (1872-1953), offeiriad ac ysgolhaig; g. 21 Chwef. 1872, mab David Walter Thomas, ficer S. Ann, Llandygâi, Caern., a'i wraig Anna (‘Morfudd Eryri’) (Bywg., 886). Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn ysgolor o'i goleg, fel ei dad. Cafodd hyfforddiant am urddau sanctaidd yn Ysgol y Clerigwyr, Leeds. Bu'n gurad eglwys y Santes Fair, Bangor, 1897-98, Wrecsam, 1898-1900, Cuddesdon, swydd Rhydychen, 1901-02, a Bae Colwyn, 1902-03. Pr. Mary Rice-Williams, Caergybi, yn 1903 ac yr oedd un mab o'r briodas.

Yn 1903 daeth yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Yma llafuriai'n galed i sicrhau lle'r iaith yn y cwricwlwm ac ym mywyd y coleg. Ailddechreuodd gwrs anrhydedd yn yGymraeg, sefydlodd Lyfrgell Gymraeg, gan gynnwys Casgliad Cenarth a brynwyd gan y coleg yn 1904, a dechreuodd er mwyn y myfyrwyr Cymraeg Gymdeithas y Brythoniaid a oedd yn cyfarfod bob yn ail nos Sadwrn yn ei dŷ heb air o Saesneg. Ar brynhawn Sul cynhaliai ddosbarth Beiblaidd yn Gymraeg i'r myfyrwyr. Symudodd yn 1915 i swydd ficer Treffynnon, ac yn 1922 i'r un swydd ym mhlwyf Tywyn, Abergele. Cyhoeddodd esboniadau Cymraeg ar Efengyl Luc yn 1920 ac 1922 ac ar 1 Corinthiaid yn 1934. Daeth yn archddiacon Maldwyn a ficer Llansantffraid-ym-Mechain yn 1938. Ymddeolodd yn 1944 ac aeth i fyw yn Llanfairfechan. Dyn addfwyn a chadarn ydoedd, yn cael adloniant ym mhob math o chwaraeon, ond yn arbennig drwy bysgota ac mewn ornitholeg. Bu f. 9 Ebr. 1953, a'i gladdu yn S. Seiriol, Caergybi.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • archifau Coleg Prifysgol Dewi Sant.

Awdur:

Y Parchedig Ganon David Trevor William Price, Llanbedr Pont Steffan