Cyfarfu â Caitlin Macnamara yn 1936 a phriodasant y flwyddyn wedyn. Ym mis Mai 1938 symudasant i fyw yn Nhalacharn, Caerf. , am y tro cyntaf; bu'r pentref hwn, sydd ynghlwm wrth ei enw bellach, yn ddylanwad cryf ar ei farddoniaeth a'i ryddiaith ddiweddarach. Derbyniasai wobr barddoniaeth Blumenthal o America , ac yr oedd wrthi'n ysgrifennu'r straeon byrion hunangofiannol a gyhoeddwyd dan y teitl Portrait of the artist as a young dog ( Llundain , 1940 ). Yr oedd realaeth smala'r straeon hyn yn wahanol iawn i'r elfen macabre a swrealaidd yn ei waith cynnar, a geir yn A prospect of the sea ( Llundain , 1955 ). Ar ôl dechrau Rhyfel Byd II cychwynnodd ar y gwaith o lunio sgriptiau radio i'r B.B.C. a darlledu sgyrsiau a darlleniadau . Bu'n ddarlledwr poblogaidd hyd ddiwedd ei oes a gwelir ansawdd ei waith radio yn y gyfrol Quite early one morning ( Llundain , 1954 ). O 1942 hyd ddiwedd y rhyfel fe'i cyflogwyd i lunio sgriptiau i Strand Films yn Llundain ; enghraifft o'i waith yn y cyfrwng yma yw The doctor and the devils ( Llundain , 1953 ).
Yr oedd y rhyfel wedi ymyrryd â'i waith barddonol, er iddo ymgartrefu fwyfwy yng Nghymru tua diwedd y rhyfel. Yn Llan-gain a Cheinewydd yn 1944-45 cychwynnodd ar gyfnod newydd o waith creadigol fel bardd . Dyma oedd y cyfnod mwyaf cynhyrchiol ers y blynyddoedd cynnar yn Abertawe , a gwelwyd y ffrwyth yn Deaths and entrances ( Llundain , 1946 ). Ar ddiwedd y rhyfel, fodd bynnag, dechreuodd ymddiddori hefyd mewn ymweld ag America , ac yr oedd y rheidrwydd i ennill bywoliaeth (yn bennaf trwy waith ar gyfer ffilmiau a radio) yn golygu byw o fewn cyrraedd i Lundain . O 1946 hyd 1949 , felly, bu'r bardd a'i deulu yn byw yn Rhydychen neu'r cyffiniau. Ymwelodd â Phrâg yn 1949 ar wahoddiad llywodraeth Siecoslofacia .
Symudodd i fyw yn y ‘ Boat House ’ yn Nhalacharn ym mis Mai 1949 , ac yno y ganwyd ei drydydd plentyn. Ei fwriad oedd sefydlu cartref parhaol yno, trwy gymorth ariannol ymweliadau ag America , o bosibl, lle yr oedd bri ar ei enw fel bardd . Chwef.-Meh. 1950 oedd cyfnod ei ymweliad cyntaf ag America , ac aeth deirgwaith yn rhagor yn 1952 ac 1953 . Y gwaith unigol a gymerodd y rhan fwyaf o'i amser o 1950 ymlaen oedd y ddrama radio Under Milk Wood ( Llundain , 1945 ), a ysbrydolwyd yn bennaf gan awyrgylch a thrigolion Talacharn ei hun. Yn ystod ei ail daith yn America cyhoeddwyd yr olaf o'i gyfrolau unigol o gerddi, yn America yn unig, sef In country sleep ( Efrog Newydd , 1952 ). Dyma gwblhau'r rhestr o gyfrolau a oedd i'w cynnwys yn ei Collected poems 1934-1952 ( Llundain , 1952 ), a enillodd wobr barddoniaeth Foyle . Ond o ganlyniad i'w yfed gormodol a'i agwedd anghyfrifol at arian profodd ansefydlogrwydd personol ac ariannol na allai hyd yn oed yr ymweliadau llwyddiannus ag America ei ddatrys, a hyn yn ei dro yn esgor ar lai a llai o gynnyrch newydd gartref. Bu f. yn Efrog Newydd ar 9 Tach. 1953 , ac fe'i claddwyd yn Nhalacharn .
Yr Athro Walford Davies, Aberystwyth.