Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, EVAN ROBERT (1891-1964), saer dodrefn ac arweinydd y Cymry yn Awstralia; g. 8 Ion. 1891 yn Yspyty Ifan, Dinb., yn fab i Robert E. Thomas a'i wraig Jane, ond symudodd y teulu i Drefriw, Caern., ac addysgwyd ef yn ysgol sir Llanrwst. Aeth i Awstralia c. 1908. Yr oedd yn saer coed crefftus iawn a cheir llawer o baneli pren o'i waith yn adeiladau cyhoeddus Melbourne.

Gan y gwyddai'r anawsterau a wynebai ymfudwyr âi i gyfarfod pob llong o Brydain a gofalu fod gan bob Cymro a ddeuai i'r lan lety i fynd iddo. Yr oedd yn weithiwr diarbed a brwdfrydig iawn ymhlith y Cymry. Bu'n ysgrifennydd (1932-58) y Cambrian Society a gyfarfyddai unwaith y mis yn Neuadd Dewi Sant, Stryd Latrobe, Melbourne, pryd y cynyddodd yr aelodaeth o tua 30 i dros 300, a bu'n llywydd yn 1958-59. Cyfrannai golofn i gylchgrawn y gymdeithas, The Cambrian, tra parodd (1939-46), ac i'r Welsh Australian cyn hynny (1938-39). Bu'n ysgrifennydd Undeb y Cymdeithasau Cymreig er 1932 ac ef, fel ysgrifennydd (1934-53) Cymdeithas Gŵyl Ddewi, a drefnai'r dathliadau blynyddol; ef oedd y llywydd yn 1955. Cadwai mewn cysylltiad â Chymru; etholwyd ef yn is-lywydd y Cymry ar Wasgar yn 1960 ac yn is-lywydd Anrh. Gymd. y Cymm. yn 1957. Pr. 7 Awst 1915 â Gwladys B. Davies, Maryborough, a bu iddynt bump o blant. Gwnaethant eu cartref yn Ael-y-bryn, 77 Stryd Murray, Caulfield, Victoria. Bu f. 6 Medi 1964 a chynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Cymraeg Stryd Latrobe. Claddwyd ef ym Mynwent Newydd Cheltenham.

Llyfryddiaeth:

  • Who's who in Australia, 1962;
  • Myfi Williams, Cymry Awstralia (1961), 160-3;
  • Trans. Cymm., 1964, rhan ii, 350;
  • Age (papur Awstralia), 7 Medi 1964.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth