THOMAS, WILLIAM (1891 - 1958), Is-ysgrifennydd y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol

Enw: William Thomas
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1958
Priod: Mary Olwen Thomas (née Davies)
Rhiant: Catherine Thomas
Rhiant: James Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Is-ysgrifennydd y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 27 Tachwedd 1891, yn fab i James a Catherine Thomas, Cymer, Rhondda, Glamorganshire. Addysgwyd ef yn ysgol uwchradd Porth a Choleg y Brifysgol yng Nghaerdydd lle y cafodd radd B.Sc. yn 1911 ac y bu'n arddangosydd mewn ffiseg am gyfnod. Yn ystod Rhyfel Byd I gwasanaethodd gyda'r South Lancashire Regiment, a bu ar Staff Cyffredinol yr Egyptian Expeditionary Force. Galwyd ef i'r Bar gan y Deml Fewnol yn 1928. Ymunasai â'r gwasanaeth sifil yn 1914, ac ymhen y rhawg daeth yn aelod o Fwrdd Iechyd Cymru, 1945-51, ac yn Is-ysgrifennydd gyda gofal am Swyddfa Gymreig y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd, 1951 hyd 1954, pryd yr ymddeolodd. Cyfrannodd erthyglau i'r Fflam, 1947, a cholofn Gymraeg y Western Mail (e.e. 25 Tachwedd 1954), ac yr oedd yn un o olygyddion Bro, 1954. Priododd yn 1925 â Mary Olwen Davies, Ynys-hir, Rhondda a symudodd o'r Cymer yn 1938 i 27 Heol Maesycoed, Y Waun, Caerdydd. Bu farw 20 Ebrill 1958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.