TRUBSHAW, Dâm GWENDOLINE JOYCE (1887 - 1954), gweinyddwr cyhoeddus a gweithiwr cymdeithasol;

Enw: Gwendoline Joyce Trubshaw
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1954
Rhiant: Lucy Trubshaw
Rhiant: Ernest Trubshaw
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweinyddwr cyhoeddus a gweithiwr cymdeithasol;
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Bedyddiwyd 1 Ebrill 1887, yn ferch i Ernest a Lucy Trubshaw, Ael-y-bryn, Felin-foel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Yn ystod Rhyfel Byd I bu'n gyfrifol am recriwtio merched i wasanaeth y rhyfel a chymerodd ddiddordeb dwfn yn eu lles, yn arbennig y rhai mewn gwaith arfau. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Pensiynau De Orllewin Cymru, a derbyniodd C.B.E. yn 1920 am ei gwasanaeth fel ysgrifennydd mygedol y Soldiers', Sailors' and Airmen's Families Association. Etholwyd hi'n aelod o gyngor sir Caerfyrddin yn 1919, yn henadur yn ddiweddarach, a hi oedd y wraig gyntaf i fod yn gadeirydd y cyngor yn 1937. A hithau'n fawr ei diddordeb mewn addysg leol, bu'n llywodraethwr ysgolion sir Llanelli a chadeirydd Ysgol Gelfyddyd Llanelli. Bu'n weithgar iawn gyda nifer o gymdeithasau iechyd, gan fod yn aelod o Gymdeithas Deillion Sir Gaerfyrddin, ac aelod (a chadeirydd am 4 blynedd) y West Wales Joint Board for Mental Defectives, a phan sefydlwyd Gwasanaeth Gwirfoddol y Menywod (W.V.S.) yn 1939 daeth yn drefnydd y mudiad yn ei sir ei hun. Yn 1946 yr oedd yn gadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cyhoedd ar ôl bod yn aelod o'r pwyllgor am ymron i 27 mlynedd, ac yn 1951 daeth yn aelod o'r Central Health Services Council. Urddwyd hi yn D.B.E. yn 1938. Er mai Cae Delyn, Llanelli, oedd ei chartref, yn Llundain y bu farw, 8 Tachwedd 1954.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.