TRUEMAN, Syr ARTHUR ELIJAH (1894 - 1956), Athro daeareg

Enw: Arthur Elijah Trueman
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1956
Priod: Florence Kate Trueman (née Offler)
Plentyn: Edwin Royden Trueman
Rhiant: Thirza Newton Trueman (née Cottee)
Rhiant: Elijah Trueman
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro daeareg
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Thomas Richard Owen

Ganwyd 26 Ebrill 1894 yn Nottingham, yn fab Elijah Trueman a Thirza (ganwyd Cottee). Addysgwyd ef yn ysgol High Pavement, Nottingham (1906-11) a Choleg Prifysgol Nottingham. Cafodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn daeareg yn 1914, M.Sc. yn 1916, a D.Sc. yn 1918 am waith ymchwil ar greigiau a ffosilau Jwrasig. Bu'n ddarlithydd cynorthwyol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd (1917-20), a wedyn, 1920-30, yn bennaeth Adran Daeareg Coleg newydd y Brifysgol, Abertawe; 1930-33 yn Athro daeareg a phennaeth Adran daearyddiaeth, Abertawe; 1933-37 Athro Chaning Wills mewn Daeareg, Prifysgol Bryste; ac 1937-46 yn Athro daeareg Prifysgol Glasgow. Yn 1946-49 yr oedd yn ddirprwy gadeirydd, ac 1949-53 yn gadeirydd, Pwyllgor Grantiau'r Prifysgolion ar adeg bwysig iawn yn hanes y prifysgolion wrth iddynt ehangu'n ddirfawr yn y trawsnewid o amgylchiadau rhyfel i heddwch. Bu'n gadeirydd Bwrdd yr Arolwg Daearegol, 1943-54, adeg ehangu'r Arolwg ar ôl y rhyfel, pan gynyddodd y gwaith ym meysydd glo Prydain yn ddirfawr. Bu'n llywydd Cymdeithas Ddaearegol Llundain, 1945-47, a dyfarnwyd iddo Fedal Bigsby y Gymdeithas honno yn 1939, a'r brif wobr, Medal Wollaston, yn 1955. Anrhydeddau eraill a gafodd oedd Medal Aur Sefydliad Peirianwyr De Cymru yn 1934, LL.D. er anrhydedd Prifysgolion Rhodes, Glasgow, Leeds a Chymru; a'i wneud yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin (F.R.S.E.) yn 1938 ac F.R.S. yn 1942. Urddwyd ef yn K.B.E. yn 1951.

Enillodd fri ledled y byd am ei waith ymchwil mawr ar stratigraffi a phalaeontoleg Jwrasig, ond cofir ef yn bennaf am ei waith ar feysydd glo Prydain ac yn arbennig am ei ddefnydd o'r lamellibranchs anforol. Gwnaeth y gwaith hwn, The coalfields of Great Britain (1954), gyfraniad sylweddol i ddatblygiad y meysydd glo brig yn ogystal â'r rhai dan yr wyneb. Cymerai ddiddordeb mewn poblogeiddio gwyddoniaeth ac ysgrifennodd yn eang ar ddaeareg a golygfeydd Lloegr a Chymru (1938, 1949).

Priododd Florence Kate Offler yn 1920 a bu iddynt un mab, Dr. E.R. Trueman, swolegydd enwog. Bu farw 5 Ionawr 1956.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.