VAUGHAN, WILLIAM HUBERT (1894-1959), giard rheilffordd a chadeirydd y Welsh Land Settlement Society;
g. 21 Maw. 1894, yn fab Henry Charles a Catherine Vaughan, Tŷ-du (Rogerstone), Myn. Addysgwyd ef yn Eastern School, Port Talbot. Fel ei dad a dau o'i frodyr, cafodd waith ar y rheilffordd, lle treuliodd 51 ml., 34 ohonynt fel giard. Enillodd barch mawr fel gŵr cyhoeddus ac ymgymerodd â gwaith gwirfoddol amrywiol iawn. Bu'n aelod o gyngor bwrdeistref Port Talbot, 1927-48, ac yn faer Port Talbot, 1941, gwnaed ef yn Y.H. yn 1949 ac ef oedd dirprwy lifftenant sir Forgannwg, 1957. Cymerodd ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth, gan wasanaethu fel ysgrifennydd Plaid Lafur Etholaeth Aberafon o 1934 hyd ddiwedd ei oes. Bu'n aelod o Weithgor Amaeth Morgannwg o 1939 ymlaen, ac yn aelod o Bwyllgor Coedwigaeth Cenedlaethol Cymru er 1945. Yn 1948 penodwyd ef yn gomisiynydd fforestydd. Ac yntau'n cynrychioli Cymru, gwnaeth lawer i hybu'r cynllun uchelgeisiol o blannu coed y credai y byddai o fudd mawr i'r wlad. Fel aelod o Gomisiwn y Parciau Cenedlaethol er 1952 ef oedd yn bennaf gyfrifol am ddynodi Bannau Brycheiniog yn ardal o harddwch eithriadol. Etholwyd ef yn gadeirydd y Welsh Land Settlement Society Ltd. yn 1953; penodwyd ef i Gyngor Ymgynghorol Cymru y B.B.C. yn 1957; yr oedd yn aelod o Fwrdd Gwarchodaeth Aberdaugleddau, 1958, ac o Fwrdd Afonydd Morgannwg. Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r cyfnodolion Prydeinig, a chylchgronau gwleidyddol a rhai'r Undebau Llafur. Derbyniodd nifer o fedalau am wasanaeth yn y ddau Ryfel Byd, a gwnaed ef yn C.B.E. yn 1958 am ei wasanaeth cyhoeddus. Yn 1921 pr. May Bishop, a bu iddynt un ferch. Ymgartrefodd yn Wood Street, Tai-bach, cyn symud i Groeswen Ganol, Port Talbot. Bu f. yn ddisymwth yng ngorsaf Paddington, 17 Ebr. 1959, ar ei ffordd i un o gyfarfodydd y Comisiwn Coedwigaeth.
Llyfryddiaeth:
- Www;
- The Times, 20 (15b) a 22 (14c) Ebr. 1929.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth