VILE, THOMAS HENRY (1882-1958), chwaraewr rygbi;
g. 6 Medi 1882 yng Nghasnewydd, Myn. Cafodd yrfa hynod ym myd rygbi fel chwaraewr (8 cap dros Gymru 1908-21), dyfarnwr (12 gêm ryngwladol 1923-28) a gweinyddwr (llywydd Undeb Rygbi Cymru 1955-56). Yr oedd ei rawd fel chwaraewr yn hir i'w ryfeddu. Cafodd ei gyfle cyntaf gyda chlwb Casnewydd fel aelod o'r trydydd tîm yn 1900. Erbyn 1902 yr oedd yn fewnwr y tîm cyntaf. Yn 1904 aeth ar daith gyda'r tîm Prydeinig i Awstralia a Seland Newydd. Oherwydd presenoldeb Richard M. (‘Dickie’) Owen (Bywg., 677) yn nhîm Cymru, bu rhaid iddo aros tan 1908 cyn ennill ei gap cyntaf. Gwnaed yn gapten clwb Casnewydd yn 1909, a datblygodd y bartneriaeth rhyngddo ef a Walter Martin yn un o'r disgleiriaf erioed. Yr oedd ganddo feddwl tactegol miniog. Llywiodd Gasnewydd i'w buddugoliaeth hanesyddol (9-3) dros Dde Affrica yn 1912. Er mawr syndod iddo ef a phawb arall, galwyd ef yn ôl i fod yn gapten tîm Cymru yn 1921, yn 37 oed. Cafodd yrfa nodedig fel milwr, gŵr busnes a gweinyddwr cymdeithasol. Bu'n Uchel-Siryf sir Fynwy yn 1944. Bu f. 30 Tach. 1958 yng Nghasnewydd.
Llyfryddiaeth:
- W. J. T. Collins, Rugby Recollections (1948);
- S. Wales Argus, a West. Mail, 1 Rhag. 1958;
- The Times, 2 Rhag. 1958.
Awdur:
Yr Athro Ga