Yr oedd yn awdur toreithiog. Cyhoeddwyd erthyglau a llythyron niferus o'i eiddo yn Notes and queries, Celtic Review, Y Beirniad, Guardian, Western Mail, South Wales News, a llawer o gylchgronau a newyddiaduron eraill. Ysgrifennai ar bynciau amrywiol iawn, yn eu plith dafodiaith Abergwaun, materion hynafiaethol, a llestri arian eglwysig, ond fel hanesydd Prydain gynnar y gwnaeth ei gyfraniad pennaf. Credai fod yr hyn a ddysgid gan haneswyr cydnabyddedig ei gyfnod am y goncwest Sacsonaidd a'r modd y gyrrwyd y Brytaniaid ar ffo i'r gorllewin — Cymru a Chernyw — yn anghywir ac yn seiliedig ar gamddeall natur y testun de excidio Britanniae gan Gildas (Bywg., 259). Aeth ati i archwilio a chyfieithu'r dogfennau a thestunau hanes cynnar ei hun mewn ymgais i gynnal ei ddamcaniaeth, gan gyhoeddi, yn fwyaf arbennig, Nennius's ‘History of the Britons’ (1938), Coll Prydain (1950), a'r esboniad llawnaf o'i ddaliadau The emergence of England and Wales (1956, 1959). Gwnaeth lawer o waith ar hanes yr eglwys Geltaidd, Welsh Christian origins (1934), Parochiale Wallicanum (1911), rhestr ddefnyddiol o eglwysi a chapeli Cymru, ac ar fucheddau'r saint mewn erthyglau yn Y Cymmrodor ac Archaeologia Cambrensis. Cafwyd ganddo ddadansoddiad llawn a chyfieithiad o destun Lladin buchedd Dewi yn Life of St. David (1923) a chyhoeddodd nifer o destunau Lladin a Chymraeg ynghyd â chyfieithiadau Saesneg (a feirniadwyd yn llym mewn rhai adolygiadau) yn Vitae sanctorum Britanniae et genealogiae (1944). Y mae ei Welsh mediaeval law (1909) yn dal yn destun da o Lyfr Cyfnerth, a chyfrannodd erthygl ar gyfraith Hywel i Encyclopaedia Britannica (1929). Daliodd Wade-Evans at ei ddamcaniaethau anuniongred a dadleuai'n fedrus drostynt gydol ei fywyd. Yr oedd yn awdurdod cydnabyddedig ar emynyddiaeth Gymraeg a Saesneg, ac y mae ei lsgr. o gyfrol arfaethedig o emynau, ‘Proper hymns for the Christian year’, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â'i lsgrau. eraill a chyfrolau o'i lyfrgell gyda'i sylwadau ar ymyl y ddalen.
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth
Dr Brynley Francis Roberts, Aberystwyth