WALTERS, THOMAS GLYN (WALTER GLYNNE ; 1890-1970), tenor;
g. 4 Ion. 1890 yn fab i David ac Elizabeth (g. Jones) Walters, Cefngorwydd, Tre-gŵyr, Morg., a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr. Bu'n gweithio mewn banc cyn penderfynu dilyn gyrfa gerddorol, ac yn 1910 enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Gwasanaethodd yn y Gwarchodlu Cymreig yn ystod Rhyfel Byd I. Yn 1921, ar awgrym Syr Landon Ronald, ymgynghorwr cerdd HMV, cafodd gytundeb i recordio gyda'r cwmni. Yr oedd yn un o'r cantorion cyntaf ym Mhrydain i ddarlledu, ac am fod ei lais yn gweddu i'r meicroffon cafodd yrfa lwyddiannus yn y cyfrwng hwnnw. Bu'n canu yn y lyric concerts a roddid yn Llundain gan gwmnïau Boosey, Chappell a Cramer, a chyda chwmnïau
opera Carl Rosa a D'Oyly Carte. Recordiodd yn helaeth iawn, gan ragori mewn canu telynegol; adweinid ef yn arbennig am ei ddehongliad o faledi, ond yr oedd hefyd yn denor oratorio da, ac yn 1935 recordiodd ariâu o Messiah Handel. Ymhlith ei recordiau Cymraeg ceir rhannau o Blodwen Joseph Parry a baledi, rhai ohonynt i gyfeiliant lleisiol y Welsh Miners' Quartet o gylch Llanelli. Cymerodd ran mewn recordiadau cyflawn o Yeomen of the guard Gilbert a Sullivan a Hiawatha's wedding feast Coleridge-Taylor. Gwnâi ei ganu disgybledig, ei donyddiaeth bur, a'i bersonoliaeth hawddgar ef yn ddatgeinydd poblogaidd iawn. Ymddeolodd yn 1947 a symud i Fro Gŵyr. Pr. yn 1921 â Lena Evans, Pontarddulais, a bu iddynt blant. Bu f. yn ei gartref yn Port Einon., Morg., 29 Gorff. 1970.
Llyfryddiaeth:
- Welsh Music, gaeaf 1970, gwanwyn 1971, hydref 1971, gwanwyn 1975;
- Landon Ronald (gol.), Who's who in Music (1935).
Awdur:
Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth