WALTERS, EVAN JOHN (1893 - 1951), arlunydd

Enw: Evan John Walters
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1951
Priod: Marjorie Walters (née Davies)
Rhiant: Elizabeth Walters (née Thomas)
Rhiant: Thomas Walters
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Donald Moore

Ganwyd 6 Ionawr 1893 yn nhafarn y 'Welcome', Mynydd-bach, Llangyfelach, ger Abertawe, Morgannwg, yn fab i rieni Cymraeg, Thomas Walters a'i briod Elizabeth (ganwyd Thomas). Wedi mynychu ysgol y pentref, aeth yn brentis peintiwr-addurnwr yn Nhreforus, Abertawe. Yn 1910 aeth i Ysgol Gelf Abertawe, y pryd hynny o dan Grant Murray. Aeth ymlaen i Bolitechnig Regent Street ac i Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain. Ofnai y byddai'r Rhyfel Byd yn torri ar draws ei waith, ac ymfudodd i America yn 1916. Ond cafodd alwad i wasanaeth milwrol yno pan ymunodd America â'r rhyfel. Er hynny, fe'i gwrthodwyd ac aeth yn beintiwr cuddliw (camouflage). Wedi'r rhyfel dychwelodd i Abertawe i ailgydio yn ei yrfa arluniol. Gweithiai mewn olew, dyfrlliw, pastel, craion a phensil. I ddechrau portreadau oedd ei destunau'n bennaf, ond peintiai hefyd dirluniau a golygfeydd lleol, gwrthrychau llonydd (still-life) a ffurfiau dynol, a dyfeisiai gynlluniau ar gyfer addurno ystafelloedd tai.

Yn 1920 cynhaliodd arddangosfa un-dyn yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe, lle y cymerwyd sylw o'i waith gan ddyngarwraig leol, Mrs Winifred Coombe Tennant, Castell-nedd; daeth hi yn noddwraig iddo a threfnu iddo gwrdd â phobl ddylanwadol. Yr oedd galw am ei waith yn yr ardal, ar adeg pan nad oedd yn arferol prynu gwaith celf gwreiddiol. Yn eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926 enillodd wobr am beintiad o gastell Pennard, gan dderbyn clod mawr gan y beirniad, Augustus John. Yn aml dangosai ei bortreadau lowyr a chymeriadau lleol, ond yr oedd ganddo eisteddwyr enwog, megis David Lloyd George, Ramsay MacDonald, Is-lyngesydd Algernon Walker-Heneage (yn ddiweddarach Walker-Heneage-Vivian) a'r Archesgob David Lewis Prosser. Tynnodd hefyd lawer o hunanbortreadau. Yr oedd ganddo'r gallu i gipio gwir olwg a phersonoliaeth yr eisteddwr. Dangoswyd ei waith yng Nghymru, Llundain a Brighton.

Mae'n bosibl y byddai wedi parhau yn beintiwr portreadau llwyddiannus oni bai am ei awydd aflonydd i arbrofi. Nid oedd ei ddarlun o Gyfarchiad y Wyryf Fair mewn gwisg fodern wrth fodd ei feirniaid. Yna dechreuodd wirioni ar y syniad o 'welediad dyblyg': hawliai fod gwrthrych yn ymddangos 'yn soled' i'r gwyliwr dim ond pan fyddai ei lygaid yn canolbwyntio arno, ac o ganlyniad y dylid dangos gwrthrychau eraill yn ddelweddau dyblyg. Dilynodd yr Argraffyddwyr (Impressionists) wrth geisio cyfleu hanfodion lliw. Yr oedd ei ddarluniau 'aneglur' yn llai poblogaidd, a phallodd ei fri. Cynhaliwyd ei arddangosfa olaf yn oriel yr Alpine Club, Llundain, yn 1950. Portread o Mrs Coombe Tennant oedd ei un olaf, ond mynnodd hi na ddylai hwn fod mewn 'gwelediad dyblyg'. Mynegodd David Bell yn ei feirniadaeth ar Walters fod ganddo dalent fawr, ond heb lwyddo, er gwaethaf ymdrech ymwybodol, i ddefnyddio ei allu aruthrol i greu celfyddyd a oedd yn dderbyniol gan unrhyw garfan o'i gyfoeswyr.

Yn fachgen swil cefn-gwlad ar y dechrau, mabwysiadodd Evan Walters yn ddiweddarach ddelwedd Fohemaidd, a'i wallt llaes a'i farf afraidd. Ni pharhaodd ei briodas yn 1935 â chyfeilles o fyfyrwraig, Marjorie Davies, ond ychydig o fisoedd. Yr oedd ef yn agos iawn at ei rieni, a gofalodd amdanynt yn eu blynyddoedd olaf. Bu farw yn Llundain 14 Mawrth 1951 ac fe'i claddwyd yn Llangyfelach. Gadawyd llawer o weddill ei waith i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac i Oriel Glynn Vivian. Ceir enghreifftiau eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Caerfyrddin a Pharc Howard, Llanelli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.