Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WATKIN-JONES, ELIZABETH (1887-1966), awdur llyfrau i blant; g. 13 Gorff. 1887 yn Nefyn, Caern., yn unig ferch Henry a Jane Parry. Capten llong oedd ei thad a bu foddi yn Ne America cyn i'w ferch ei weld. Cafodd ei haddysg yn ysgol Nefyn, ysgol sirol Pwllheli ac yn y Coleg Normal, Bangor, a bu'n athrawes plant bach yn Aberdâr, Onllwyn, Porthmadog, Trefriw, a Nefyn. Pr. â John Watkin-Jones yn Chwef. 1916. Ar ôl Rhyfel Byd I bu'n byw am gyfnod byr yn Merthyr cyn dychwelyd i Nefyn yn 1920 pan benodwyd ei gŵr yn brifathro yno.

Dechreuodd ysgrifennu storïau yn Saesneg i gylchgronau plant fel Chuck's Own, Bubbles, a Fairyland Tales, cyn troi i ysgrifennu yn Gymraeg. Rhwng 1939 ac 1949 enillodd amryw byd o wobrau yn yr Eist. Gen. am nofelau a straeon a dramâu byrion i blant; cyfrannodd lawer i Tywysydd y plant, Trysorfa'r plant, Y Winllan, Cymru'r plant, Yr Athro, ac yn arbennig i'r comic Hwyl; lluniodd hylltod o sgriptiau ar gyfer rhaglenni plant y B.B.C., a dramâu byrion ar gyfer plant capel Soar (A.), Nefyn. Heblaw Pwt a Moi (1953), Onesimus (1947) a thri llyfryn arall o ddramâu byrion a gyhoeddwyd yn 1947, cyhoeddodd saith nofel neu stori hanesyddol ar gyfer plant — Plant y mynachdy (1939), ei ffefryn hi ei hun, Luned bengoch (1946), Y cwlwm cêl (1947), Y Dryslwyn (1947), Esyllt (1951), Lois (1955), a ‘Lowri' yn Storïau ias a chyffro (1951). Mae pob un o'r rhain, ac eithrio Y Dryslwyn, wedi ei lleoli yn ardal Nefyn, ac yn sicrhau i'r awdur ei lle ymhlith prif awduron llyfrau i blant yn Gymraeg.

Bu f. ar 9 Meh. 1966 a llosgwyd ei chorff yn amlosgfa Bae Colwyn, lle mae ei llwch.

Llyfryddiaeth:

  • Herald Cymr., 13 Meh. 1966;
  • Wenna Davies Hughes yn Athro Arfon, rhif 3, Rhag. 1969, 30-2;
  • gwybodaeth gan H. J. Jones, Llangybi;
  • [Mairwen a Gwynn Jones, Dewiniaid Difyr (1983)].

Awdur:

Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor