Yr oedd yn ddeon cyfadran y celfyddydau yng ngholeg Caerdydd, 1923-25, ac yn is-brifathro, 1931-33, a bu am flynyddoedd yn brif arholwr mewn Ffrangeg ac Eidaleg i'r Bwrdd Canol Cymreig. Ymladdodd yn ddygn am gydraddoldeb Cymraeg a Saesneg yn arholiadau ymaelodi ym Mhrifysgol Cymru, a thros ddwyieithrwydd yng nghyfundrefn addysg Cymru. Cymerai ddiddordeb mawr yng Ngholeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd ac yng nghapel y Tabernacl (B), lle bu'n ddiacon o 1926 ymlaen. Bu'n aelod gweithgar iawn o Orsedd y Beirdd am dros 70 ml., ac ef oedd y Derwydd Gweinyddol o 1959 i 1964.
Cafodd anrhydeddau lawer: Officier de l'Instruction Publique, Rennes, 1911, Cavaliere della Corona d'Italia, 1920. Chevalier de la Lægion d'Honneur, 1932, Commandeur des Palmes Acadæmique, 1965, Docteur ès Lettres, Rennes, 1962, a D. Litt. (Cymru), 1961.
Yr oedd yn ysgolhaig o'r radd flaenaf mewn dau faes a astudid fel rheol yn hollol ar wahân yn ei amser ef, sef y Gymraeg a'i hen lenyddiaeth, a'r Ffrangeg a'i hen lenyddiaeth hithau. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i ddeall fod y gyfathrach agos yn yr Oesoedd Canol rhwng yr arglwyddi Normanaidd a'u llysoedd Ffrangeg eu hiaith ar y Gororau ac yn neheudir Cymru a'r arglwyddi o Gymry a'u llysoedd Cymraeg eu hiaith wedi cael effeithiau pwysig yn y ddwy ffordd: nid yn unig cafodd y chwedlau Celtaidd (ac yn eu plith y chwedlau Arthuraidd Cymraeg) ddylanwad mawr ar lenyddiaeth Ffrangeg yr Oesoedd Canol, a thrwy honno ar holl lenyddiaethau Ewrop, ond ar y llaw arall treiddiodd diwylliant ac iaith Ffrainc i gylchoedd eang o fonedd a gwŷr llên Cymru. Felly, yn syth o'r Ffrangeg i'r Gymraeg yr ymlwybrodd y rhan fwyaf o'r geiriau Hen Ffrangeg a fenthyciodd yr iaith lenyddol yn yr Oesoedd Canol, heb fynd drwy gyfrwng y Saesneg. Y mae hyn yn neilltuol amlwg yn y corff o lenyddiaeth Gymraeg Canol a gyfieithwyd yn uniongyrchol o'r Hen Ffrangeg (e.e. Ystorya Bown o Hamtwn), lle ceir yn aml yr un gair Ffrangeg yn y gwreiddiol ac yn y cyfieithiad. Credai Morgan Watkin hyd yn oed ei fod yn medru olrhain dylanwad priodddulliau Hen Ffrangeg yng nghystrawen rhai testunau Cymraeg Canol. Yr oedd ei feistrolaeth ar balaeograffiaeth hefyd yn ei alluogi i ganfod yn sgript y prif hen lsgrau. Cymraeg, a gopïwyd mewn mynachlogydd Sistersaidd, ddylanwad sgript Hen Ffrangeg y mam-abatai Ffrengig. Rhaid cydnabod yn deg fod ei adnabyddiaeth drylwr o'r cefndir Ffrengig-Normanaidd yn yr Oesoedd Canol wedi hudo Morgan Watkin weithiau i fynd i eithafion braidd, ac i or-brisio'r dylanwadau Ffrengig, yn enwedig yn yr hen ruddin o lenyddiaeth Gymraeg frodorol gysefin (e.e. Culhwch ac Olwen). Rhaid hefyd wrthod tarddiad Ffrangeg i air Cymraeg (pa mor ddifai bynnag y bo yn ôl rheolau ffoneteg) bob tro y bydd cymhariaeth â'r ieithoedd Celtaidd eraill yn profi ei fod yn Gymraeg o'r gwraidd. Ond y mae bron yn sicr fod corff mawr y geiriau Ffrangeg a fenthyciodd y Gymraeg hyd at ganol y 14eg g. wedi dod yn syth o'r Ffrangeg. Cymwynas fawr MorganWatkin oedd agor led y pen ffenestr newydd ar agwedd bwysig o lên y Cymru a oedd wedi aros yn rhy hir o dan lestr. Caiff ei ddilynwyr hidlo'i dystiolaeth a phwyso a mesur ei ddadleuon. Ond, bellach, ni fydd yn deg eu hanwybyddu.
Ei brif weithiau yw ‘The French linguistic influence in Mediaeval Wales’, Trans. Cymm., 1920; ‘The French literary influence in Mediaeval Wales’, ibid., 1921; gyda V. E. Nash-Williams (gw. uchod) ‘A pre-reformation inscribed chalice and paten, B.B.C.S., 13 (1925); ‘Albert Stimming's Welsche Fassung in the Anglonormanische Boeve de Hamtone, an examination of a critique’, yn Studies in French language and mediaeval literature presented to M.K. Pope; ‘Sangnarwy ac oed Kulhwch ac Olwen yn y Llyfr Gwyn’, B.B.C.S., 13 (1949) ‘Testun Kulhwch a'i gefndir Ffrengig eto’, ibid., 14 (1950); Ystorya Bown de Hamtwn, cyfieithiad canol y 13eg ganrif o La Geste de Bown de Hamtone, gyda rhagymadrodd, nodiadau, a geirfa (1958); ‘The Chronology of the Annales Cambriae and the Liber Landavensis on the basis of their Old French graphical phenomena’, NLW Jnl. (1960); La Civilisation française dans les Mabniogion (1962); ‘The Chronology of the White Book of Rhydderch on the basis of its Old French graphical phenomena’, NLW Jnl. (1964); ‘The Book of Aneirin, its Old French remanients, their chronology on the basis of the Old French language’, ibid. (1965); ‘The Chronology of the Black Book of Carmarthen, on the basis of its Old French phenomena’, ibid. (1965); ‘The Black Book of Chirk and the orthographia gallica anglicana, The Chronology of the Black Book of Chirk on the basis of its Old French graphical phenomena’, ibid. (1966).
Yn 1911 yng Nghaerdydd yng nghapel y Tabernacl (B) pr. Lucy Jenkins, gynt o'r Hendy, Pontarddulais, chwaer John Gwili Jenkins (Bywg., 410). Bu f. 7 Medi 1970.
Edouard Bachellery (1907-88), Versailles