Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WEBBER, Syr ROBERT JOHN (1884-1962), newyddiadurwr; g. 14 Tach. 1884 yn fab hynaf Charles a Hannah Webber, Y Barri, Morg. Addysgwyd ef yn ysgol sir y Barri ac Ysgol Gwyddoniaeth a Chelfyddyd Caerdydd cyn mynd yn glerc yn swyddfa rheolwr cyffredinol Rheilffordd y Barri. Yn 1908, yn 24 ml. oed, yr oedd yn un o 300 o ymgeiswyr am swydd ysgrifennydd preifat yn Stryd y Fflyd i George Riddell (Barwn Riddell yn ddiweddarach), cadeirydd News of the World ac un o brif gyfranddalwyr y Western Mail. Cafodd y swydd pan atebodd mai ‘gwaith’ oedd ei hamdden. Pan ddaeth angen rheolwr cynorthwyol ar y Western Mail ar gyfer y papurau newydd a'u busnes argraffu eang, crybwyllodd Syr George, cadeirydd y cwmni ar y pryd, enw Robert Webber. Ymhen tair bl., yn 32 ml. oed, penodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y papurau a'r Tudor Printing Works ac, ymhen 3 mis, cafodd ei ethol i'r bwrdd. Yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr dros oes a chydreolwr-gyfarwyddwr gyda Syr William Davies (golygydd 1901-31; Bywg., 149), swydd a gadwodd am 32 ml. hyd 1955. Yn 1937 etholwyd ef i fwrdd yr Allied (Kemsley yn ddiweddarach) Newspapers, perchnogion y Western Mail. Yn fuan wedi mynd i Gaerdydd gorfu iddo unioni effaith straen y rhyfel ar ddau bapur dyddiol y cwmni, y Western Mail a'r Evening Express. Yn 1928 goruchwyliodd uno cwmni'r Western Mail Cyf. a David Duncan a'i Feibion, cyhoeddwyr y papurau a gystadlai â hwy yng Nghaerdydd, y South Wales Daily News a'r South Wales Echo, gyda'r bwriad o ddiddymu'r Express a'r News a oedd yn rhedeg ar golled. Bygythiad Arglwydd Rothermere i gychwyn trydydd papur hwyrol yn y ddinas a'u gorfododd i uno, ond fel y digwyddodd, llwyddodd y cwmni newydd i gadw'r Express i fynd hyd 1930. Bu gan Robert Webber lais yn y penderfyniad i ddal ati i gyhoeddi'r Western Mail adeg y streic gyffredinol a chyflogi staff heb eu hyfforddi, gan mwyaf. Disgrifid ef fel meistr cyfiawn ond caled, er na ddisgwyliai i neb wneud dim na fuasai ef ei hun yn barod i'w wneud; canmolid ef am gefnogi gohebwyr ifainc. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd masnachol de Cymru; bu'n sylfaenydd a llywydd Clwb Busnes Caerdydd am 39 ml., hyd ddiwedd ei oes. Ac yntau'n adnabyddus trwy Brydain ym maes newyddiaduraeth (ymhlith safleoedd eraill bu'n llywydd y Newspaper Society, 1926-27, a chadeirydd y Press Association, 1932-33). Dangosai hefyd y gofidiai'n fawr am adfywio de Cymru adeg y dirwasgiad. Yn 1936 penodwyd ef yn un o wyth cyfarwyddwr cwmni newydd y South Wales Trading Estate Co. Ltd. (a ddatblygodd Ystad Fasnachu Trefforest) ac, yn 1948, yn gyfarwyddwr Wales and Monmouthshire Estates Ltd. Ymhlith ei gynlluniau yr oedd un yn 1937 i wneud priffordd o dde i ogledd Cymru er mwyn cyflogi glowyr di-waith ac atal yr ymfudo i Loegr. Yn y blynyddoedd cyn Rhyfel Byd II yr oedd yn gefnogwr pybyr i ddiwydiannau ifainc y drafnidiaeth awyr a moduron. (Rhif un o'i geir yn ddiweddarach oedd ANY 1). Yr oedd yn aelod o'r Seiri Rhyddion; yn 1947 etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Geidwadol Ganolog Caerdydd; ac urddwyd ef yn farchog yn 1934. Pr., 30 Rhag. 1911, Jane Bennet Perkins, Casgwent (bu f. 26 Meh. 1963) a bu iddynt un ferch. Bu ef f. 18 Rhag. 1962.

FRANK EDWARD WEBBER (1893-1963), rheolwr cyffredinol y Western Mail and Echo Ltd.; g. 8 Hyd. 1893, yr ieuengaf o dri mab Charles a Hannah Webber. Addysgwyd ef yn ysgol sir Y Barri a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Ymunodd â'r fyddin ym mis Awst 1914, cafodd gomisiwn ym mis Awst 1916 a'i wneud yn lifftenant yn Ail Fataliwn y South Wales Borderers; clwyfwyd ef ddwywaith, gan adael ei fraich chwith yn rhannol ddiffrwyth. Ar ôl ei ryddhau o'r fyddin dychwelodd i astudio'r clasuron, hanes a mathemateg ac ennill gradd B.A. Daeth yn gymrawd o'r Sefydliad Siartredig i Ysgrifenyddion yn 1926, a phenodwyd ef yn rheolwr cyffredinol y Western Mail and Echo yn 1940, yn gyfarwyddwr yn 1946, ac yn is-gadeirydd yn 1959. Ymddeolodd yn 1960. A chanddo ddiddordeb dwfn mewn addysg yng Nghymru, yr oedd yn aelod o Lys Prifysgol Cymru a Chyngor Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Yr oedd hefyd yn weithgar iawn yn myd busnes a gyda llawer o achosion da yn ne Cymru. Cafodd O.B.E. yn 1946 am ei waith dros Bwyllgor Cynilo Caerdydd. Yr oedd ei briod, Edith Clarissa (bu f. 1984) yn athrawes, a bu iddynt un mab. Bu f. 21 Ebr. 1963.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • West. Mail a The Times, 19 Rhag. 1962 a 23 Ebr. 1963.

Awdur:

Clive Betts, Caerdydd