Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WHEELER, Dâm OLIVE ANNIE (1886-1963), Athro addysg; g. yn 1886, yn ferch i Henry Burford Wheeler, Aberhonddu, Brych. Addysgwyd hi yn ysgol sir y merched, Aberhonddu, a C.P.C., Aberystwyth, lle bu'n llywydd y myfyrwyr. Graddiodd yn B.Sc. (1907) a M.Sc. (1911), ac etholwyd hi'n Gymrawd Prifysgol Cymru. Aeth yn fyfyriwr ymchwil i Goleg Bedford, Llundain, ac i Brifysgol Paris, a chafodd D.Sc. Prifysgol Llundain (1916) mewn seicoleg. Penodwyd hi'n ddarlithydd yng ngwyddor meddwl a moeseg yn Cheltenham Ladies' College, yna aeth yn ddarlithydd addysg ym Mhrifysgol Manceinion, lle gwasanaethodd hefyd fel deon y Gyfadran Addysg, cyn symud i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Yn 1925 daeth yn Athro addysg yno, a bu am gyfnod yn ddeon Cyfadran Addysg y coleg. Cymerai ddiddordeb arbennig yn y defnydd o seicoleg mewn dulliau dysgu. Ar ôl gweithio llawer ymhlith grwpiau ieuenctid a chymdeithasau myfyrwyr daeth yn gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Cymru ar Gyflogi Ieuenctid yn 1947, a chadeirydd Adran De Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Gwasanaethodd ar lawer o bwyllgorau a chynghorau ac urddwyd hi yn D.B.E. yn 1950 am ei gwasanaeth i addysg. Dair bl. ar ôl ymddeol yn 1951 aeth ar daith ddarlithio yng Nghanada. Yr oedd ei chyfraniad i ddamcaniaethau addysg yn hysbys mewn llawer rhan o'r byd trwy ei chyhoeddiadau niferus, sy'n cynnwys: Anthropomorphism and science (1916), Bergson and education (1922), Youth (1929), Creative education and the future (1936), ‘The mind of the child’ yn Nursery school education (G. Owen, gol., 1939), The adventure of youth (1945), rhan III o Mental health and education (1961); a phapurau mewn cylchgronau seicoleg ac addysg. Ymgartrefodd yn Woodlands, Heol Betws-y-coed, Cyncoed, Caerdydd, a bu f. yn ddisymwth, 26 Medi 1963.

Llyfryddiaeth:

  • Debrett;
  • Www;
  • West. Mail, 28 Medi 1963.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth