Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WHELDON, SyrWYN POWELL (1879-1961), cyfreithiwr, milwr, gweinyddwr; g. 22 Rhag. 1879, yn fab i'r Parch. Thomas Jones Wheldon (Bywg., 954) a Mary Elinor Powell, Bronygraig, Ffestiniog, Meir. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor, yn High School Croesoswallt, yng Ngholeg y Brifysgol Gogledd Cymru — ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cyngor y Myfyrwyr, 1899B.A. 1900, ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (B.A. a LL.B. yn 1903, M.A. yn 1920). Yn 1906 cychwynnodd ar ei yrfa fel cyfreithiwr yn 63 Queen Victoria Street, Llundain, EC. Ymaelododd â nifer o gymdeithasau Cymreig Llundain (yn eu plith Cymdeithas y Cymmrodorion) a buan yr adnabu'n dda Gymry dylanwadol y ddinas. Ymunodd â'r fyddin yn ebrwydd a dibetrus yn 1914 a gwasanaethodd ym Mataliwn 14, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc o ddiwedd 1915 hyd Rhagfyr 1918. Ac yntau'n isbennaeth ac uchgapten, fe'i clwyfwyd, cyfeiriwyd at ei wrhydri mewn adroddiadau swyddogol ac enillodd y D.S.O. yn 1917. Ef oedd Ysgrifennydd a Chofrestrydd Coleg Bangor o 1920 hyd 1923 pan benodwyd ef yn Ysgrifennydd Parhaol Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. Ymddeolodd yn 1945 ond ni bu pall ar ei weithgareddau cyhoeddus, ac enghreifftiau'n unig o'i wasanaeth gwiw yw'r swyddi a ganlyn: Cadeirydd Pwyllgor Cymru, Festival of Britain, 1951; Cadeirydd Cyngor Darlledol i Ysgolion Cymru; aelod o Lys a Chyngor Prifysgol Cymru, Is-lywydd Coleg Bangor a Llywydd Cymdeithas y Cymmrodorion. Urddwyd ef yn farchog yn 1939, yn K.B.E. yn 1952; rhoes Prifysgol Cymru iddo radd Doethur yn y Cyfreithiau (er anrhydedd) yn 1947 a Chymdeithas y Cymmrodorion ei Medal yn 1955. Bu farw ym Mhrestatyn 10 Tachwedd 1961 a phrofwyd ei ewyllys ar 18 Ionawr 1962.

Oherwydd ei graffter a'i gallineb yr oedd yn weinyddwr tan gamp a dawn ganddo i ‘drefnu’ pethau'n ddiffwdan. Cas oedd ganddo rodres ac ymffrost ac nid oedd flewyn ar ei dafod wrth anghymeradwyo gweithred ffolach na'i gilydd. Eithr gŵr twymgalon ydoedd yn y bôn a chyfaill cywir. Synhwyrai deimladau a dyheadau ei gydwladwyr, ar bwyllgor ac ar faes y gad, ar lwyfan ac mewn oedfa. Glynodd yn ffyddlon i'r Hen Gorff; o dan ei ewyllys (ac eithrio'r teulu) y Tabernacl, Bangor (hen eglwys ei dad) a elwodd fwyaf. Gŵr golygus, urddasol ydoedd, a cheir darlun pensel ohono gan S. Morse Brown, a phenddelw gan y Pwyliad Kustek Wojnarowksi (1958) (yn Ystafell y Cyngor, Coleg Bangor, ac un arall yn Archifdy Clwyd, Penarlâg).

Pr. Megan Edwards, Canonbury, Prestatyn, merch Hugh Edwards, Llundain, 31 Gorff. 1915. Ganed iddynt ddau fab, Huw Pyrs a Tomos Powell (a fu farw ychydig fisoedd cyn ei dad), a dwy ferch, Mair a Nans.

Llyfryddiaeth:

  • Ww, 1961;
  • Www, 1951-60;
  • Debrett, 1961;
  • The Times, 13 a 15 Tachwedd 1961;
  • Trans. Cymm., 1956, 11-17, 1962, 161-69.
  • Gwybodaeth bersonol.
  • [Y mae ei bapurau a'i ddyddiaduron yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor].

Awdur:

Yr Athro John Gwynn Williams, M.A., Caerlleon Fawr / Bangor