WHITEHEAD, LEWIS STANLEY (1889-1956), ysgrifennydd Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru;
g. 12 Ion. 1889 yn Stoke-on-Trent, yn fab i George Whitehead. Pedair bl. yn ddiweddarach symudodd y teulu i Gaerdydd, lle y cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. O 1910 hyd 1916 yr oedd yn rheolwr Rank Mills yn nhref Truro. Yr oedd yn hoff o gerddoriaeth a chanai yng nghôr yr eglwys gadeiriol yn Truro ac yn Llandaf. Ar ôl gwasanaethu gyda'r awyrlu o 1916 hyd 1919, daeth yn gynorthwyydd i Frank Morgan, Cymrawd Coleg Keble, Rhydychen, ac ysgrifennydd Corff Cynrychioliadol newydd yr Eglwys yng Nghymru. Daeth Whitehead yn ysgrifennydd ar ei ôl yn 1935. Braidd yn awdurdodol oedd Whitehead, fel Morgan, gan fod y swydd yn rhoi digon o awdurdod iddo mewn materion gweinyddol. Ef oedd yn
gyfrifol am lywio'r Eglwys trwy flynyddoedd caled Rhyfel Byd II ac enillodd achos cyfreithiol yn erbyn y Tithe Redemption Commission, 1943-44. Ystyrid ef yn drefnydd heb ei ail gan aelodau Comisiwn y Genedl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, 1946-49; ef oedd yn gyfrifol am weinyddu apêl yr Eglwys yng Nghymru, 1952-53, a hefyd am brynu Bush House, un o fuddsoddiadau mwyaf llwyddiannus yr Eglwys yng Nghymru yn y farchnad dai. Bu salwch ei wraig, Ada Marie (g. Thomas), yn ofid mawr iddo yn ei flynyddoedd olaf. Bu f. bedwar mis ar ei hôl, ar 17 Rhag. 1956. Y mae ei erthyglau yn chwarterolyn yr Eglwys, Province, ar ‘Frank Morgan’, ‘Parsons’ pay', a ‘Bush House' yn ffynonellau defnyddiol ar hanes cynnar y Corff Cynrychioliadol.
Llyfryddiaeth:
- West. Mail, 18, 20 Rhag. 1956;
- Province, Pasg 1950, Nadolig 1950, Pasg 1955;
- Denning, Landmarks in the law (1984).
Awdur:
Yr Archddiacon Owain William Jones, (1922-95), Abertawe